Newyddion

Mae pennod 4 o'n podlediad, Mewn Sgwrs â... allan nawr!

Mae pennod podlediad newydd yn archwilio beth yw gofal cymdeithasol, a'r hyn rydyn ni'n ei glywed amdano Rydym yn parhau â'r sgwrs am ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru gyda phennod pedwar o'n cyfres podlediad fideo Mewn Sgwrs â... Yn y bennod ddiweddaraf hon, mae Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, yn ymuno â Phrif Weithredwr Lais, Alyson Thomas.

Gyda'i gilydd, maent yn archwilio beth yw gofal cymdeithasol, pwy mae'n ei gefnogi, a sut mae'n cyd-fynd â chymunedau ledled Cymru.

Mae Alyson a Sarah hefyd yn trafod:

  • Rôl Gofal Cymdeithasol Cymru o ran datblygu'r gweithlu, rheoleiddio a gwella gwasanaethau
  • Pam mae llais, rheolaeth, a sgyrsiau "beth sy'n bwysig" yn ganolog i ofal
  • Pwysigrwydd caredigrwydd, urddas a pharch ym mhrofiadau pobl
  • Pam mae angen i wasanaethau deimlo'n gysylltiedig â'r unigolyn
  • Cefnogi gofalwyr di-dâl a chydnabod eu rôl
  • Pwysau ar y gweithlu gofal cymdeithasol a phwysigrwydd cydnabyddiaeth
  • Darpariaeth Gymraeg a'r cynnig gweithredol mewn lleoliadau gofal
  • Atebolrwydd, hyder, a gwella gwasanaethau pan fydd pethau'n mynd o'i le

Ochr yn ochr â hyn, maen nhw yn adlewyrchu'r hyn y mae Llais wedi'i glywed drwy'r prosiect Iechyd a Gofal Cymdeithasol a garem, gan gynnwys faint mae pobl yn gwerthfawrogi caredigrwydd, urddas, parch, gwasanaethau cyfunol, a theimlo'n wirioneddol eu clywed.

Pam Gwrando

Mae'r bennod hon yn ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gwasanaethau cyhoeddus, datblygu'r gweithlu, diwygio gofal, neu sut y gall profiad byw helpu i lunio cymorth gwell, mwy ymatebol i bobl a chymunedau.

Mae'r gyfres yn archwilio sut y gall gwrando ar brofiadau pobl helpu i lunio dyfodol gwell ar gyfer iechyd ac, yn arbennig, gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gwyliwch Pennod 4 yma