Newyddion

Mae pennod newydd o'r podlediad yn archwilio pam mae chwarae'n bwysig mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Rydym yn parhau â'r sgwrs am ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru gyda'r bennod ddiweddaraf o'n cyfres bodlediadau, Yr Iechyd a'r Gofal Cymdeithasol a Garem.

Ym Mhennod 7, mae Alyson Thomas yn ymuno â Marianne Mannello, Dirprwy Gyfarwyddwr Chwarae Cymru, ar gyfer sgwrs ystyriol am rôl bwysig chwarae yn nhaith plant drwy iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae chwarae'n aml yn cael ei gysylltu â hwyl ac adloniant, ond mae'r bennod hon yn archwilio pam ei fod yn llawer mwy na hynny. Mae Marianne yn esbonio sut mae chwarae'n cefnogi lles emosiynol plant, gwytnwch, dysgu, datblygiad yr ymennydd ac ymdeimlad o berthyn, a pham ei fod yn cael ei gydnabod fel hawl sylfaenol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Mae'r sgwrs hefyd yn edrych ar rôl chwarae pan fo plant yn wynebu salwch, yn mynychu apwyntiadau ysbyty neu'n llywio systemau gofal ehangach. Mae Marianne yn rhannu sut y gall cyfleoedd i chwarae wneud profiadau heriol yn llai brawychus, yn fwy hylaw ac yn fwy addas i blant, gan dynnu sylw at waith pwysig arbenigwyr chwarae iechyd wrth gefnogi plant a theuluoedd cyn, yn ystod ac ar ôl gweithdrefnau meddygol.

Mae'r drafodaeth yn archwilio rhai o'r heriau sy'n wynebu darpariaeth chwarae mewn lleoliadau gofal iechyd ledled Cymru, gan gynnwys pwysau ar y gweithlu, cyllid a gofod, ac yn ystyried pam fod angen dull mwy cydgysylltiedig sy'n seiliedig ar chwarae er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gallu elwa ar chwarae wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal.

Mae'r drafodaeth yn parhau am:

  • Pam mae chwarae'n hanfodol i lesiant, datblygiad a gwytnwch plant

  • Y rhwystrau sy'n wynebu plant heddiw wrth geisio cael amser, lle a chaniatâd i chwarae

  • Pam mae chwarae hyd yn oed yn bwysicach yn ystod salwch, triniaeth ac ansicrwydd

  • Rôl arbenigwyr chwarae iechyd wrth gefnogi plant cyn, yn ystod ac ar ôl gweithdrefnau

  • Pam nad yw mynediad plant at chwarae mewn lleoliadau gofal iechyd yn gyson ledled Cymru

  • Heriau gweithlu, cyllid a gofod sy'n effeithio ar chwarae mewn ysbytai a lleoliadau gofal

  • Sut mae chwarae'n helpu plant i fynegi eu hunain a chael llais cryfach yn eu gofal

  • Pam y dylai gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol fabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig sy'n rhoi chwarae wrth ei galon

 

Ers recordio'r bennod hon, mae Chwarae Cymru a Starlight UK wedi dechrau gweithredu prosiect Chwarae'n Dda yng Nghymru. Dros gyfnod o ddwy flynedd, nod y prosiect yw cefnogi dull strategol o ymdrin â chwarae mewn lleoliadau gofal iechyd ledled Cymru drwy weithredu'r Pecyn Cymorth Chwarae'n Dda mewn ymddiriedolaethau'r GIG, cefnogi teuluoedd a chryfhau dulliau sy'n seiliedig ar chwarae ym maes gofal iechyd plant.

Mae'r gwaith cynnar wedi cynnwys dod â rheolwyr chwarae iechyd o bob rhan o Gymru ynghyd a sefydlu Tasglu Chwarae'n Dda yng Nghymru i helpu i gryfhau a datblygu'r system chwarae iechyd i blant.

Mae'r bennod hon yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i unrhyw un sy'n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, gwasanaethau plant, polisi neu gymorth i deuluoedd, yn ogystal ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn hawliau plant a chreu gwasanaethau sy'n adlewyrchu profiadau ac anghenion plant yn well. 

Yn mwynhau'r sgwrs? Tanysgrifiwch ar YouTube neu dilynwch ni ar Spotify i gael gwybod am bob pennod newydd cyn gynted ag y caiff ei lansio.