Newyddion

Sbotolau ar Iechyd Meddwl Plant a Gwasanaethau Niwro-ddatblygiadol yng Nghwm Taf Morgannwg

Gan weithio mewn partneriaeth â'r Hwb Cymorth Ymddygiad, daeth ein tîm yng Nghwm Taf Morgannwg â dros 130 o rieni, gofalwyr, addysgwyr a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol at ei gilydd yn ddiweddar ar gyfer sgwrs bwerus am Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) a chymorth niwro-ddatblygiadol (ND) yn y rhanbarth.

Fe wnaethom greu lle i rannu profiadau byw, gofyn cwestiynau, a chlywed yn uniongyrchol gan ddarparwyr gwasanaeth gan gynnwys yr Hwb Cymorth Ymddygiad a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Roedd y materion allweddol a godwyd yn cynnwys:

  • Bylchau mewn cymorth i blant niwroamrywiol
  • Heriau cyrchu gwasanaethau CAMHS a chymorth cyfyngedig wrth aros i gael mynediad
  • Diffyg cynllunio pontio a chefnogaeth wrth symud i wasanaethau oedolion
  • Prinder meddyginiaeth
  • Cefnogaeth gyfyngedig i rieni sy'n gofalu 

Bydd yr hyn a ddywedodd pobl wrthym bellach yn cael ei rannu'n ffurfiol gydag awdurdodau lleol, y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru i helpu i lunio darparu gwasanaethau a datblygu polisïau yn y dyfodol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol Llais ar dîm Cwm Taf Morgannwg, Daniel Price:

"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i bawb a ddaeth i gyd. Roedd yn hynod werthfawr cael trafodaeth agored a gonest am y materion sy'n cael eu profi ac edrych ar sut y gallwn gyd-greu atebion ar gyfer canlyniadau gwell i blant a phobl ifanc."

Rydym wedi ymrwymo i barhau â'r sgwrs. Bydd ail sesiwn yn cael ei chynnal yn gynnar y flwyddyn nesaf yn canolbwyntio ar glywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc 11–18 oed.