Newyddion

Toriad byd-eang Microsoft yn effeithio ar wasanaethau Llais

Fel llawer o sefydliadau eraill yn y DU, rydym yn cael ein heffeithio gan y toriad byd-eang Microsoft heddiw (dydd Gwener 13 Tachwedd 2026).

Er bod ein gwasanaethau yn parhau i fod ar agor, mae ein mynediad i'r systemau digidol rydyn ni'n eu defnyddio yn ysbeidiol. Mae hyn yn golygu efallai na fyddwn yn derbyn neu allu ymateb i negeseuon e-bost nes bod Microsoft yn datrys y broblem. Mae ein llinellau ffôn hefyd yn cael eu heffeithio felly efallai y byddwch chi'n cael trafferth ein ffonio hefyd.

Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos ac yn gweithio o gwmpas y mater cymaint ag y gallwn.

Diolchwn i chi am eich amynedd.