Ymateb Llais i fframwaith newydd Gofal Argyfwng ac Acíwt Cymru
Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys nodau i leihau oediadau, gwella llif cleifion trwy ysbytai, darparu mwy o ofal yn agosach at adref, a helpu pobl i ddychwelyd adref yn gynt pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.
Daw'r ymrwymiad i roi diwedd ar ofal coridorau yn sgil pryderon hirsefydlog a godwyd gan bobl ledled Cymru, cyrff cynrychioliadol, a Llais ynghylch adrannau brys sydd wedi'u gorlethu a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar brofiadau pobl o ofal, eu preifatrwydd a'u llesiant.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn benodol, mae pobl wedi rhannu eu profiadau gyda Llais o arosiadau hir am ofal brys, yn ogystal ag anawsterau i gael mynediad at y gwasanaeth cywir ar yr adeg gywir, a derbyn gofal mewn amgylcheddau prysur a gorlawn.
Er bod llawer o bobl wedi siarad yn gadarnhaol am yr ymrwymiad a'r proffesiynoldeb a ddangoswyd gan staff y GIG, maent hefyd wedi disgrifio teimlo'n bryderus, yn rhwystredig ac yn ansicr ynghylch beth fyddai'n digwydd nesaf. Maent wedi dweud wrthym fod oedi a gorlenwi yn effeithio ar eu preifatrwydd, eu hurddas a'r modd y cyfathrebir â nhw ar adeg pan fyddant fwyaf agored i niwed.
Disgrifiodd pobl hŷn, pobl ag anghenion cymhleth a theuluoedd sy'n cefnogi anwyliaid heriau hefyd wrth lywio gwasanaethau, a chael mynediad at y wybodaeth a'r cymorth oedd eu hangen arnynt.
Mae llawer o'r blaenoriaethau a amlinellir bellach yng nghynllun newydd Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu materion y mae pobl wedi dweud wrth Llais yn gyson eu bod eisiau eu gweld yn cael sylw, gan gynnwys llai o oedi, gallu llywio gwasanaethau'n haws, derbyn gofal mewn lleoliadau mwy addas, a chael cymorth i ddychwelyd adref yn gynt pan mae hynny'n ddiogel.
Bydd cyflawni'r uchelgeisiau hyn yn golygu newidiadau i'r ffordd a'r lle y darperir gwasanaethau, a bydd y newidiadau hynny'n cael eu teimlo gan bobl a chymunedau ledled Cymru. Mae Llais yn glir bod angen cynnwys pobl o'r dechrau'n deg, gan helpu i lunio'r ffordd y caiff eu gwasanaethau eu cynllunio a'u darparu'n lleol. Dylai profiadau pobl hefyd fod yn un o'r prif ffyrdd o gynllunio a mesur llwyddiant, ochr yn ochr â data perfformiad a llif cleifion.
Dywedodd Alyson Thomas, prif weithredwr Llais:
"Mae pobl wedi bod yn glir wrthym eu bod eisiau mynediad amserol at ofal, cyfathrebu clir, a thriniaeth mewn amgylcheddau sy'n diogelu eu hurddas a'u lles.
"Rydym yn croesawu'r uchelgeisiau a nodir yn y cynllun hwn, gan gynnwys yr ymrwymiad i roi diwedd ar ddarparu gofal mewn coridorau – ond yr hyn sy'n bwysig i bobl yw a ydynt yn profi cyfnodau aros byrrach, a oes ganddynt well mynediad at ofal, ac a welir diwedd ar sefyllfaoedd lle darperir gofal mewn lleoliadau amhriodol."
"Nid yw camau blaenorol i wella gofal brys ac argyfwng yng Nghymru wedi arwain at welliannau parhaol. Mae pobl sy'n byw ym mhob rhan o Gymru yn haeddu gweld cynnydd gwirioneddol a chyson o dan y fframwaith newydd hwn. Ni ddylai neb orfod derbyn gofal mewn coridor na lleoliad amhriodol arall.
"Byddwn yn parhau i wrando ar brofiadau pobl, yn cyflwyno'r hyn a glywn i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, ac yn sicrhau bod lleisiau pobl yn rhan o'r broses o gynllunio a darparu'r newidiadau hyn, fel y gall pawb gael mynediad at ofal diogel, urddasol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn."
Beth yw eich profiad o ofal acíwt neu ofal brys?
Gallwch rannu eich profiad gyda ni drwy lenwi ein harolwg cenedlaethol, neu drwy siarad yn uniongyrchol ag aelod o'ch tîm lleol Llais. Pa bynnag ddewis a wnewch, rydym yma i wrando.
Rhannwch eich stori ar-lein neu cysylltwch â'ch tîm lleol Llais i siarad ag aelod o'r staff.