Ymateb Llais i gynllun newydd ar gyfer canolfannau llawfeddygol i wella amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau arferol
Mae'r llywodraeth wedi dweud y bydd y canolfannau yn "fannau pwrpasol ar gyfer llawdriniaethau wedi'u cynllunio ymlaen llaw", megis amnewid clun a phen-glin newydd, llawdriniaethau cataract ac atgyweirio hernias. Dyma rai o'r llawdriniaethau y mae Llais yn clywed amdanynt amlaf gan bobl sy'n rhannu eu pryderon ynghylch rhestrau aros.
Y nod yw i'r canolfannau leihau amseroedd aros drwy sicrhau nad yw llawdriniaethau arferol yn cael eu canslo na'u gohirio pan fydd achosion brys yn codi.
Mae pobl, a'u gofalwyr, yn dweud wrth Llais yn rheolaidd am yr effaith y mae aros am driniaeth ysbyty a llawdriniaeth yn ei chael ar eu bywydau. Maent yn disgrifio byw gyda phoen, colli annibyniaeth, a'r effaith ar eu bywyd teuluol, eu gwaith a'u lles.
“Rwyf wedi bod yn aros am lawdriniaeth ers pum mlynedd. Mae pob diwrnod yn boenus. Y cyfan rwyf ei eisiau yw gonestrwydd ynghylch pryd y bydd yn digwydd.”
Mae llawer yn sôn am y rhwystredigaeth a'r ansicrwydd o beidio â gwybod pryd y byddant yn cael gofal. Mae pobl wedi dweud wrth Llais eu bod wedi trefnu amser i ffwrdd o'r gwaith a gwneud cynlluniau o amgylch apwyntiadau – dim ond i'r driniaeth gael ei chanslo neu ei gohirio. Mae eraill wedi sôn am yr anawsterau a gawsant wrth drefnu cludiant ar gyfer apwyntiadau a newidiwyd – yn enwedig pan fyddant yn cael cymorth gan berthnasau a gofalwyr – yn ogystal â'r costau ariannol ac ymarferol sy'n gysylltiedig â theithio dro ar ôl tro.
Mae llawer o bobl yn dweud y gall diffyg gwybodaeth a chymorth yn ystod cyfnodau aros hir a chanslo apwyntiadau achosi pryder mawr, a gwneud iddynt deimlo fel petai'r system wedi eu hanghofio.
"Pe bai rhywun wedi cysylltu â mi neu wedi rhoi cyngor, ni fyddwn wedi teimlo mor anobeithiol."
Wrth i'r cynlluniau ar gyfer y canolfannau ddatblygu, bydd yn bwysig deall a ydynt yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiadau pobl o ofal. Bydd hefyd yn bwysig ystyried yn ofalus ble y lleolir y canolfannau, er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb.
Yn ogystal â data ar berfformiad a llif cleifion, dylai adborth a phrofiadau pobl fod yn un o'r prif ffyrdd y caiff llwyddiant ei gynllunio a'i fesur.
Dywedodd Alyson Thomas, prif weithredwr Llais:
"Y tu ôl i bob rhif ar restr aros mae unigolyn sy'n ceisio parhau â'i fywyd bob dydd tra'n aros am driniaeth.
"Mae pobl yn dweud wrthym y gall canslo apwyntiadau fod yn anodd iawn. Mae llawer wedi trefnu amser i ffwrdd o'r gwaith, wedi trefnu gofal plant neu drafnidiaeth, neu wedi gofyn i aelodau o'r teulu eu cefnogi. I'r rhai sy'n byw mewn cymunedau gwledig, gan gynnwys pobl sy'n gweithio ym maes ffermio ac amaethyddiaeth, gall cyrraedd apwyntiadau olygu teithiau hir a chynllunio gofalus.
"Rhaid i apwyntiadau weithio i bobl a ffitio o amgylch eu bywydau. Pan fydd cynlluniau'n newid ar fyr rybudd, gall hynny gael effaith sylweddol.
"Dyna pam, wrth i'r canolfannau llawfeddygol hyn gael eu datblygu, y bydd yn bwysig edrych y tu hwnt i'r niferoedd a deall pa wahaniaeth maen nhw'n ei wneud i bobl. Os gallant helpu i leihau nifer y cansloiadau a darparu mwy o sicrwydd ynghylch pryd y bydd triniaeth yn digwydd, gallai hynny wneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pobl."