Yr hyn a glywsom yn Ffair Iechyd Race Equality First
Un o’r negeseuon cryfaf a glywsom oedd bod cynrychiolaeth yn bwysig.
Dywedodd pobl wrthym fod gweld eu hunain a’u cymunedau wedi’u hadlewyrchu o fewn gwasanaethau yn helpu i feithrin ymddiriedaeth, lleihau pryder a gwella hyder. Disgrifiodd llawer bwysigrwydd siarad â rhywun sy’n deall eu diwylliant, eu gwerthoedd a’u profiadau bywyd.
“Roeddwn i yn yr ysbyty am 5 mis gyda fy mab gan iddo gael ei eni’n gynamserol. Ar ôl tua 2 fis, daeth pobl o’m cymuned i siarad â mi am ei ddatblygiad. Gwnaeth hynny imi deimlo’n well ac fel petaent yn fy neall i a’m teulu.”
Clywsom hefyd dro ar ôl tro am effaith rhwystrau iaith a chyfathrebu.
Rhannodd pobl brofiadau o gael trafferth esbonio symptomau, deall gwybodaeth neu lywio gwasanaethau pan nad Saesneg oedd eu hiaith gyntaf. Disgrifiodd rhai bryderon ynghylch diagnosisau, triniaethau a chyngor yn cael eu camddeall oherwydd anawsterau cyfathrebu.
“Mae iaith yn rhwystr enfawr. Nid yw rhai pethau’n cyfieithu i’r Saesneg yn yr un ffordd, felly gall fod yn anodd esbonio’r hyn rwy’n mynd drwyddo neu’n ei brofi.”
Soniodd eraill am y cyfrifoldeb sydd arnynt wrth gyfieithu ar gyfer aelodau o’u teulu.
“Mae’n anodd iawn. Y gwir yw bod yn rhaid imi gyfieithu ar gyfer fy mam drwy’r amser, felly efallai na fydd hi’n rhannu’n llawn beth sy’n digwydd oherwydd nad yw am imi boeni. Yn aml, caiff ei hanwybyddu gan nad yw’r staff yn gallu siarad â hi’n uniongyrchol.”
Thema arall a ddaeth i’r amlwg oedd her derbyn apwyntiadau mewn amser byr.
Dywedodd pobl wrthym y gall apwyntiadau deimlo’n frysiog, yn enwedig pan fo angen amser ychwanegol arnynt i brosesu gwybodaeth yn Saesneg neu i esbonio eu profiadau mewn ail iaith. Teimlai nifer eu bod yn gadael apwyntiadau gyda chwestiynau heb eu hateb neu ansicrwydd ynghylch y camau nesaf yn eu taith ofal.
Ar yr un pryd, roedd pobl yn glir ynghylch yr hyn sy’n gwneud profiad yn gadarnhaol.
Drwy ein sgyrsiau, clywsom faint o wahaniaeth y gall triniaeth barchus, cyfathrebu clir, cymorth cyfieithu priodol a gofal sy’n sensitif i ddiwylliant ei wneud. Clywsom hefyd mai’r pethau bach yn aml, fel gwên neu gymryd yr amser i gyfarch rhywun hyd yn oed pan fyddwch yn brysur, sy’n gallu cael effaith gadarnhaol ar eu profiad.
Mae’r materion a godwyd gan bobl yn adlewyrchu themâu sydd wedi’u cynnwys yn Egwyddorion y Bobl Llais, gan gynnwys pwysigrwydd parch, cyfathrebu, cynhwysiant a gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd y profiadau a’r syniadau a rannwyd gyda ni yn y digwyddiad yn helpu i gryfhau ein gwaith o ddylanwadu ar welliannau mewn iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Diolch i bawb a gymerodd yr amser i siarad â ni. Mae eich profiadau yn helpu i lunio’r gwaith rydym yn ei wneud a’r sgyrsiau rydym yn eu cael gyda gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.