Sut rydym yn gweithio

Rhoi lle canolog i leisiau pobl ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Mae popeth a wnawn yn cael ei arwain gan ein hymrwymiad i sicrhau bod gan bobl yng Nghymru lais cryfach mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Rydym yn gwrando ar brofiadau pobl, yn cynrychioli'r hyn sy'n bwysig i gymunedau, ac yn defnyddio'r mewnwelediadau hynny i helpu i ddylanwadu ar welliannau mewn gwasanaethau ledled Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i wrando gydag empathi a pharch, gan werthfawrogi gwahanol safbwyntiau a gweithio ar y cyd ag eraill.

Mae ein fframwaith ymddygiad yn nodi sut rydym yn mynd ati i'n gwaith. Mae hefyd yn cefnogi cyflawni ein blaenoriaethau strategol ac yn cynnal ein gwerthoedd a'n diwylliant.

Egwyddorion y Bobl

Yn 2025, siaradasom â miloedd o bobl ledled Cymru am eu profiadau o ofal iechyd a gofal cymdeithasol i'n helpu i ddatblygu Egwyddorion y Bobl. Mae'r wyth egwyddor hyn yn adlewyrchu'r hyn sydd bwysicaf iddynt ac yn cynnig canllaw ar gyfer llunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio i bawb. Mae ein gwaith yn cael ei arwain gan yr egwyddorion, ac maent yn llywio'r ffordd rydym yn gwrando, yn ymgysylltu ac yn gweithio gydag eraill.

Dysgwch ragor am Egwyddorion y Bobl.

Sut mae lleisiau pobl yn gwneud gwahaniaeth 

Mae popeth rydym yn ei wneud yn dechrau gyda'r hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym.

Rydym yn casglu adborth gan bobl a chymunedau ledled Cymru drwy sgyrsiau, digwyddiadau, ymweliadau, gweithgareddau ymgysylltu a gwaith eirioli.

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i:

  • nodi'r materion sydd bwysicaf i bobl
  • cyfleu barn pobl i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  • dylanwadu ar welliannau i wasanaethau
  • cefnogi newid cadarnhaol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Drwy rannu eich profiadau, gallwch helpu i wella gwasanaethau, nid yn unig i chi'ch hun, ond i eraill ledled Cymru hefyd.

Bydd yr holl benderfyniadau a wnawn a’r camau a gymerwn yn unol ag un neu fwy o’r canlynol:

Our work will be driven by the concerns of people in WaBydd ein gwaith yn cael ei yrru gan bryderon pobl yng Nghymru a byddwn yn gweithio gydag unigolion a grwpiau cymunedol i’w hadnabod.les and we’ll work with individuals and community groups to identify them.

Rydym am gefnogi a deall pryderon, anghenion a phrofiadau ein poblogaeth amrywiol i wneud yn siŵr bod pawb yn cael eu cynrychioli, nad oes neb yn cael ei eithrio a bod ein gwasanaethau ar gael i bawb.

Rydym yn arbennig o awyddus i gynrychioli barn y rheini na chlywir eu lleisiau fel arfer. Os ydych chi'n credu y gallwch chi ein helpu ni i gyrraedd pobl rydych chi'n gwybod sy'n cael eu tangynrychioli, Cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni.

Darllenwch ein Polisi Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Rydym eisiau gweithio gyda phobl, y sector iechyd a gofal cymdeithasol a’r sectorau gwirfoddol a chymunedol.

Cysylltwch â ni os nad ydym eisoes yn gweithio gyda chi a'ch bod yn meddwl y dylem fod.

Nid ydym yn rhan o Lywodraeth Cymru, na’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hynny’n bwysig oherwydd mae’n golygu y gallwn weithio’n wirioneddol er budd pobl Cymru.

Byddwn yn dylanwadu ar y sector iechyd a gofal cymdeithasol ac yn eirioli dros bobl yn effeithiol fel bod pobl yng Nghymru yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt mewn ffordd sy’n gweithio orau iddynt.

Bydd gennym gynlluniau a blaenoriaethau clir gyda chanlyniadau y gallwn eu mesur i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'n hadnoddau a'n bod yn dryloyw ac yn atebol.

Dysgwch fwy am ein trefniadau llywodraethu yma.