Powys
Coleg Aberhonddu, Penlan
Aberhonddu
LD3 9SR
Tŷ Ladywell, Y Drenewydd
Powys
SY16 1JB
Yr hyn a wnawn
Mae Llais Rhanbarth Powys yma i wneud yn siŵr bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn defnyddio’ch barn a’ch profiadau i gynllunio a darparu gwell gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn eich ardal leol.
Rydym yn clywed gan y cyhoedd mewn llawer o wahanol ffyrdd. Rydym yn ymweld â'r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol i siarad â chleifion, preswylwyr a gofalwyr. Rydym yn siarad â phobl mewn digwyddiadau cyhoeddus, a thrwy grwpiau cymunedol.
Mae ein Gwasanaeth Eiriolaeth yn helpu pobl sydd eisiau codi pryder am ofal neu driniaeth.
Rydyn ni'n defnyddio arolygon, apiau a chyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â'n cymuned, ac rydyn ni'n cynhyrchu adroddiadau ar yr hyn rydyn ni wedi'i glywed.
Codi pryder am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
Pan aiff pethau o chwith, gall codi eich pryder ymddangos yn “gam yn rhy bell” neu’n cymryd gormod o amser, yn enwedig gan y gallai fod ar adeg arbennig o anodd.
Ond mae codi eich pryder yn y ffordd gywir yn bwysig. Gall wneud gwahaniaeth cadarnhaol i eraill, gan atal yr un peth rhag digwydd iddynt a sicrhau bod ein gofal yn y dyfodol yn well.
Gallwn helpu gydag eiriolaeth cwynion.
Os oes angen i chi godi pryder am wasanaeth GIG neu ofal cymdeithasol, gallwch siarad â ni. Bydd ein staff eirioli cwynion ymroddedig, hyfforddedig yn darparu'r cymorth annibynnol a chyfrinachol am ddim y mae gennych hawl iddo.
Cysylltwch â ni ar 01874 610646 neu e-bostiwch ni ar [email protected] a bydd un o'n tîm yn siarad â chi am eich pryder, pa fath o gymorth sydd ei angen arnoch yn eich barn chi ac os oes gennych unrhyw anghenion penodol megis deunyddiau print bras neu fynediad at rywun sy'n gallu llofnodi.
Digwyddiadau i ddod yn yr ardal hon
Uwchgynhadledd Cymru Ifanc 2026
LLais Lleol - Galw heibio - Newtown
Llais Lleol - Ailymweld Llandrindod
Newyddion cysylltiedig
Cyhoeddiadau ac adnoddau cysylltiedig
Find out what’s happening in your area
Find advice, support, events and more in your area