Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae Llais yn croesawu ymgysylltiad ar ddyfodol Meddygfa Sarn

NEWYDDION 29 Ionawr 2026

Mae Llais yn croesawu penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ohirio eu penderfyniad ar ddyfodol Meddygfa Sarn er mwyn caniatáu cyfnod o wyth wythnos o ymgysylltu â'r gymuned.

Mae Meddygfa Sarn yn feddygfa sefydledig sy'n gwasanaethu cymuned glos, ac mae pobl wedi dweud wrthym ba mor bwysig yw hi iddyn nhw fod yn rhan o drafodaethau am newidiadau i wasanaethau meddygon teulu lleol. Mae'r cyfnod ymgysylltu hwn yn rhoi cyfle i'r Bwrdd Iechyd esbonio'r heriau y mae'n eu hwynebu, archwilio opsiynau, a deall yr effaith bosibl ar gleifion a'r gymuned ehangach.

Bydd Llais yn parhau i fod yn annibynnol drwy gydol y broses hon, gan wrando ar bobl leol a chynrychioli eu barn i'r Bwrdd Iechyd.

Mae Meddygfa Sarn yn feddygfa teulu sy'n gwasanaethu ardal Pont-iets. Mae'r Bwrdd Iechyd wedi bod yn ystyried cynigion sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau meddyg teulu yn y dyfodol yn dilyn heriau parhaus o ran cynnal y practis.

Yn dilyn yr hyn a glywodd Llais gan gleifion a'r gymuned leol, ysgrifennodd Llais at y Bwrdd Iechyd yn nodi pwysigrwydd cynnwys pobl cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Wedi hynny, cyflwynwyd papur i'r Bwrdd Cyhoeddus, gan gynnwys argymhelliad i wasgaru cleifion i feddygfeydd eraill o fewn clwstwr meddygon teulu lleol, ochr yn ochr â chynnig ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd. 

Mae'r Bwrdd bellach wedi cytuno i ohirio penderfyniad a chynnal cyfnod o wyth wythnos o ymgysylltu â'r gymuned.

 

Cliciwch yma i ddarllen ein papur

Rhannwch y dudalen hon
Cyhoeddwyd gyntaf 29 Ionawr 2026
Diweddarwyd diwethaf 29 Ionawr 2026