Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

2 females sat having a discussion

Ein rôl yn Newid Gwasanaethau

Ein rôl pan gynigir newidiadau i iechyd a gofal cymdeithasol

Rydym yma i sicrhau bod eich barn a’ch profiadau yn cael eu defnyddio gan benderfynwyr i gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwell. 

Rydym yn casglu eich profiadau — da a drwg — yna’n gweithio gyda darparwyr lleol y GIG a gofal cymdeithasol i ymateb i’r pethau sydd bwysicaf i bobl yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. 

Oherwydd ein bod yn gorff statudol, mae’n rhaid i sefydliadau’r GIG ac awdurdodau lleol wrando. 

Rydym yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed pan fydd newidiadau yn cael eu cynnig, hefyd.

Pryd cynigir newidiadau

Mae’n rhaid i’r GIG ac awdurdodau lleol gynnwys pobl wrth gynllunio, datblygu a dylunio gwasanaethau, o’r dechrau er mwyn iddynt allu deall anghenion presennol pobl ac yn y dyfodol. 

Mae angen iddynt hefyd ddweud wrthym pan fyddant yn gwneud newid i wasanaethau sy’n effeithio ar bobl. 

Ein rôl ni yw helpu i sicrhau eu bod yn gofyn i chi am eich barn ac yna’n meddwl am yr hyn rydych chi’n ei ddweud ac yn ymateb iddo. 

Felly rydyn ni’n gofyn iddyn nhw amlinellu: 

  • pam maen nhw’n meddwl bod angen i bethau newid
  • beth fydd, yn eu barn nhw, yn well i bobl o dan y newidiadau
  • pwy fydd yn cael ei effeithio os bydd pethau’n newid
  • faint fydd y gost 

Yna byddwn yn edrych ar yr hyn y mae’r GIG neu’r awdurdod lleol yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod pobl yn gwybod am eu syniadau ar gyfer newid ac y gallant rannu eu barn a’u syniadau yn hawdd neu ofyn cwestiynau.

Beth rydyn ni’n ei wneud ar ôl i chi rannu eich barn a’ch syniadau

Rydym yn edrych yn ofalus ar yr hyn y mae pobl wedi’u dweud ac yn sicrhau bod y bwrdd iechyd lleol neu’r awdurdod lleol: 

  • wedi meddwl yn ofalus am yr hyn y mae pawb wedi’u dweud
  • yn defnyddio’r hyn y mae pobl wedi’u dweud i newid ei gynlluniau lle mae angen
  • yn ateb y cwestiynau ac unrhyw bryderon y mae pobl wedi’u codi

Byddwn yn meddwl am:

  • yr effeithiau da a drwg ar bob cymuned 
  • sut y gall grwpiau penodol o bobl gael eu heffeithio 
  • sut y gallai gwasanaethau gael eu heffeithio os bydd pethau’n newid neu os nad ydynt yn newid 
  • a oes pethau y gall y bwrdd iechyd neu’r awdurdod lleol eu gwneud i gyfyngu ar unrhyw effeithiau negyddol 

Os nad ydym yn credu ei bod nhw wedi:

  • rhoi digon o gyfle i bobl ddweud eu dweud 
  • meddwl yn iawn am yr hyn y mae pobl wedi eu dweud
  • ateb pryderon pobl; neu
  • cynnig y ffordd orau ymlaen

Byddwn yn dweud wrthynt ac yn gofyn iddynt wneud mwy i ymateb i’r pethau y mae pobl yn poeni amdanynt. Os nad yw hynny’n gweithio, efallai y byddwn yn cymryd camau eraill. Gall hyn gynnwys gofyn i un o Weinidogion Llywodraeth Cymru ymchwilio i’n pryderon

Bod yn rhan o rywbeth pwysig

Rydym yma i sicrhau bod barn a phrofiadau pobl yn cael eu defnyddio gan benderfynwyr i gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwell.

I gael gwybod mwy am Llais a sut y gallwch chi gymryd rhan mewn gwella iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru gyda ni, cysylltwch â’ch tîm Llais lleol