Mewnwelediadau
Rydym yn parhau i greu darlun o’r hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rydym yn casglu gwybodaeth o'n harolwg cenedlaethol, eiriolaeth cwynion, ac ymdrechion ymgysylltu, ac edrychir ar hyn yn fanwl a'i rannu gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a gyda chi. Byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfleu effaith ein gwaith. Os hoffech glywed mwy am hyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr misol.
Ar gyfer blaenoriaethau Cymru gyfan, lle rydym wedi gweld patrwm o angen ar draws y wlad gyfan, byddwn yn gweithio gydag ymchwilwyr i ddeall yn fanylach rai o'r heriau sy'n eich wynebu chi a'ch cymunedau. Hyd yn hyn, mae rhai o’r darnau hyn o waith wedi cynnwys:
- Mynediad i ddeintyddiaeth
- Canfyddiadau’r cyhoedd o wasanaethau fferyllol
- Integreiddio gwasanaethau fferyllol i’r system gofal iechyd ehangach
- Mynediad at wasanaethau Meddyg Teulu
- Defnyddio’r Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol