Ymateb Llais i Gynllun Drafft Hawliau Pobl Anabl
Mae Llais wedi croesawu Cynllun drafft Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru, gan gefnogi ei huchelgais i wneud Cymru'n fwy cynhwysol a hygyrch. Yn ein hymateb, rydym yn galw am ymrwymiadau cryfach i gyd-gynhyrchu, er mwyn sicrhau bod pobl anabl yn rhan o lunio'r gwasanaethau maen nhw'n eu defnyddio.
Mae'r cynllun yn gam cadarnhaol ond rhaid iddo gael ei gefnogi gan gynlluniau cyflawni clir, cyllid, a phartneriaethau cryf gyda sefydliadau sy'n cynrychioli lleisiau pobl.
Gallwch ddarllen ein hymateb llawn yma: