Yr hyn rydyn ni wedi'i glywed - Hydref 2025
Dyma beth mae ein timau ledled Cymru wedi bod yn brysur yn ei wneud yn ystod y mis diwethaf
Rydym wedi ymgysylltu â 1222 o bobl i gael eu barn ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
Y pynciau mwyaf cyffredin y mae pobl wedi bod eisiau siarad â ni amdanynt y mis hwn oedd:
- Mynediad at ofal sylfaenol: Anhawster wrth archebu apwyntiadau gyda meddyg teulu oherwydd diffyg systemau archebu a diffyg deintyddion y GIG
- Teithio am ofal: Problemau cludo cleifion, gan gynnwys canslo ac oedi gwasanaethau cludo nad ydynt yn rhai brys
- Cyfathrebu rhwng gwasanaethau: Cydlynu gwael o fewn ysbytai a rhwng ysbytai, meddygfeydd teulu, a chleifion
- Amseroedd aros am ofal: Aros hir am apwyntiadau a llawdriniaeth ar gyfer gofal wedi'i gynllunio
- Cefnogaeth i ofalwyr: Diffyg cefnogaeth i ofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia
Rydym wedi ymgysylltu â 106 o bartneriaid ac wedi cynnal neu fynychu 69 o weithgareddau ymgysylltu, yn cynnwys: Ffair Iechyd Cymunedol Lleiafrifoedd Ethnig, Heneiddio'n Dda Dros y Gaeaf Llangefni a Digwyddiad Iechyd Da Dolgellau.
Rydym wedi gwneud 13 Ymweliad â safleoedd iechyd a gofal cymdeithasol ac wedi gwneud 36 o gynrychioliadau ar eich rhan, gan sicrhau bod eich adborth yn cael ei ddefnyddio gan benderfynwyr i lunio eich gwasanaethau.
Rydym hefyd wedi bod yn rhan o 17 Newid Gwasanaeth ac wedi cefnogi 1164 o bobl trwy ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion.