
Yn Eich Esgidiau Chi
Yn Eich Esgidiau yw prosiect ymchwil cydweithredol rhwng Comisiwn Bevan a Llais. Bydd y prosiect hwn yn dilyn straeon pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal dros gyfnod o 12 mis.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwn o’r straeon hyn i ddysgu am sut mae pobl â chyflyrau iechyd gwahanol yn cael eu cefnogi gan wasanaethau iechyd a gofal. Byddwn yn edrych ar beth sy’n gweithio’n dda a beth allai fod yn well er mwyn gwella gwasanaethau iechyd a gofal i bawb.
**Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Hydref 2025 ac yn dod i ben ym mis Hydref 2026.
Angen Adroddwyr Straeon
Rydym yn chwilio am ystod amrywiol o adroddwyr straeon o bob cwr o Gymru i fod yn rhan o’r prosiect ymchwil cyffrous hwn. Rydym angen pobl dros 18 oed, sy’n byw yng Nghymru ac sydd â’r un o’r cyflyrau neu anghenion iechyd canlynol ac sy’n defnyddio gwasanaethau cysylltiedig:
- Cyflwr niwroddatblygiadol oedolion (e.e. Awtistiaeth, ADHD)
- Mamolaeth
- Canser
- Dementia
- Diabetes
- Strôc
Fel adroddwr stori, rhaid i chi fod yn hapus i gymryd rhan mewn gweithdai gyda ni ac i rannu eich profiadau iechyd a gofal rhwng Hydref 2025 a Hydref 2026.
Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddylunio sut y gallwch rannu eich straeon a’ch profiadau, mewn ffordd sy’n diwallu eich anghenion, a byddwn yn eich hysbysu am yr hyn rydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth rydych yn ei rhannu gyda ni.
Ac os oes gennych gwestiynau o hyd, neu os hoffech gael y wybodaeth hon mewn fformat hygyrch, gallwch gysylltu â ni ar: [email protected]
Barod i gofrestru?
Cofrestrwch eich diddordeb drwy e-bost: [email protected] a bydd aelod o’n tîm ymgysylltu yn cysylltu â chi.