Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Llais Rhanbarth Gwent - Arolwg Gofalwyr - Adroddiad Cryno - Medi 2023
Fel rhan o'n cynllun blynyddol, roedd Llais Rhanbarth Gwent am glywed gan Ofalwyr yn ardal Gwent a'u profiad o gael gafael ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'u defnyddio i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Er mwyn gwneud hyn, gwnaethom greu arolwg ar-lein i bobl roi eu hadborth. Gwnaethom anfon ein harolwg at randdeiliaid allanol a chwmnïau gofalu, gwnaethom ei gyhoeddi ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a rhannu copïau ohono mewn digwyddiadau ymgysylltu.
Aeth yr arolwg yn fyw ym mis Mehefin 2023 a daeth i ben ym mis Awst. Cawsom gyfanswm o 29 o ymatebion.
Llythyr Dynodiad yn Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer Corff Llais y Dinesydd
Mae’r Prif Swyddog Cyfrifyddu i Lywodraeth Cymru wedi dirprwyo i mi’r gyfrifioldeb o sicrhau y gwneir dynodiadau Swyddog Cyfrifyddu priodol o ran Cyrff Hyd Braich (ALB) Llywodraeth Cymru. Fel y’i gosodir ym mharagraff 19(1) Atodlen 1 Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (y Ddeddf), ysgrifennaf atoch i’ch dynodi yn Swyddog Cyfrifyddu (AO) ar gyfer Llais o 1 Ebrill 2023 ymlaen.