Cyfarfod Bwrdd Gyhoeddus - 28 Mehefin 2025
Ein Cyfarfodydd
Rydym am i bobl gymryd cymaint o ran â phosibl yn Llais ac felly rydym yn cynnal ein cyfarfodydd Bwrdd yn gyhoeddus mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, y gall unrhyw un ymuno â nhw, yn bersonol neu ar-lein gan ddefnyddio Zoom. Wrth ddewis ble rydym yn cynnal ein cyfarfodydd, byddwn yn ystyried safonau mynediad a hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus i wneud yn siŵr bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu mynychu’n bersonol os dymunant.
Bydd lleoliad a manylion pob cyfarfod Bwrdd cyhoeddus yn cael eu rhestru isod cyn gynted ag y byddant yn hysbys, cliciwch ar y dyddiadau isod i gael rhagor o fanylion am bob dyddiad.
Mae dwy ffordd y gallwch chi fynychu cyfarfod Bwrdd naill ai'n bersonol neu ar-lein trwy Zoom.
Cofrestru eich presenoldeb yn bersonol
Rhowch wybod i ni o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn y cyfarfod os ydych chi'n bwriadu mynychu'n bersonol ac os oes gennych chi unrhyw anghenion cyfathrebu penodol y gallwn ni helpu gyda nhw. Gallwch wneud hyn drwy e-bostio [email protected].
Cofrestru eich presenoldeb ar-lein
Rhowch wybod i ni hefyd o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn y cyfarfod os ydych chi'n bwriadu mynychu ar-lein trwy Zoom, ac os oes gennych chi unrhyw anghenion cyfathrebu penodol y gallwn ni helpu gyda nhw.
Gallwch gofrestru eich presenoldeb trwy e-bostio eich enw llawn, cyfeiriad e-bost, rhif cyswllt a sefydliad os yn berthnasol i [email protected]. Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn dolen Zoom trwy e-bost i fynychu'r cyfarfod.
Bydd cyfle i’r cyhoedd ofyn cwestiynau ym mhob un o’n cyfarfodydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yr hoffech i’r Bwrdd eu hateb, gofynnwn i chi eu cyflwyno’n ysgrifenedig i [email protected] erbyn canol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod.
Papurau Bwrdd iw ddod.
Papurau Bwrdd
- 25-07-01 - Agenda Bwrdd 28.07.2025
- 25-07-03 Sbotolau Gofal Cymdeithasol
- 25-07-07 - Adroddiad y Prif Weithredwr - Mehefin 2025
- 25-07-08 Perfformiad yn erbyn ein cynllun blynyddol Chwarter 1
- 25-07-09 - Adroddiad diweddaru cyllid hyd at ddiwedd mis Mehefin 2025
- 25-07-09 - Annex A Finance Report 3 months to June 2025
- 25-07-09 - Annex B Finance Report 3 months to June 2025
- 25-07-10 (a) Workforce update cover paper July 2025
- 25-07-10 (b)
- 25-07-11 Adroddiad Risg Corfforaethol
- 25-07-12 Munudau'r Bwrdd 21-05-25
- 25-07-13 Llais Board Action Log Template English - July 2025 update
- 25-07-14 (a) ARAC Adroddiad Cadeirydd
- 25-07-14(b) Adroddiad y Cadeirydd ar Daliadau’r Gweithlu a Thelerau Gwasanaeth
- 25-07-16(a) Clawr Rhaglen Gwaith y Bwrdd
- 25-07-16(b) Adroddiad Rhaglen Ddatblygu Bwrdd Llais 2025-2026
- 25-07-20 Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg