Cyfarfod Bwrdd Ychwanegol - Ar-lein - 5/11/2025
Papurau Bwrdd
- 25-11-00 - Agenda Bwrdd 05.11.2025
- 25-11-03 - Llais Audit of Accounts Report Final 2024-25 (yn saesneg yn unig)
- 25-11-05 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft 2024-25
- 25-11-05a - Adroddiad Blynyddol 2024-2025
Ein Cyfarfodydd
Rydym am i bobl gymryd cymaint o ran â phosibl yn Llais ac felly rydym yn cynnal ein cyfarfodydd Bwrdd yn gyhoeddus mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, y gall unrhyw un ymuno â nhw, yn bersonol neu ar-lein gan ddefnyddio Zoom. Wrth ddewis ble rydym yn cynnal ein cyfarfodydd, byddwn yn ystyried safonau mynediad a hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus i wneud yn siŵr bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu mynychu’n bersonol os dymunant.
Bydd lleoliad a manylion pob cyfarfod Bwrdd cyhoeddus yn cael eu rhestru isod cyn gynted ag y byddant yn hysbys, cliciwch ar y dyddiadau isod i gael rhagor o fanylion am bob dyddiad.
Mae dwy ffordd y gallwch chi fynychu cyfarfod Bwrdd naill ai'n bersonol neu ar-lein trwy Zoom.
Cofrestru eich presenoldeb ar-lein
Rhowch wybod i ni hefyd o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn y cyfarfod os ydych chi'n bwriadu mynychu ar-lein trwy Zoom, ac os oes gennych chi unrhyw anghenion cyfathrebu penodol y gallwn ni helpu gyda nhw.
Gallwch gofrestru eich presenoldeb trwy e-bostio eich enw llawn, cyfeiriad e-bost, rhif cyswllt a sefydliad os yn berthnasol i [email protected]. Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn dolen Zoom trwy e-bost i fynychu'r cyfarfod.
Bydd cyfle i’r cyhoedd ofyn cwestiynau ym mhob un o’n cyfarfodydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yr hoffech i’r Bwrdd eu hateb, gofynnwn i chi eu cyflwyno’n ysgrifenedig i [email protected] erbyn canol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod.