Sioe Bro Morgannwg
Mae Sioe y Fro yn denu dros 20,000 o bobl o bob cefndir, o dref ac o gefn gwlad yn rheolaidd. Cynhelir y Sioe ym Mhenllyn, ac mae wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd a bellach dyma'r digwyddiad undydd mwyaf ym Mro Morgannwg. Ochr yn ochr â'r sioe da byw a cheffylau, mae mwy na 200 o Stondinau Masnach ar y cae yn marchnata ac yn gwerthu amrywiaeth enfawr o nwyddau.
Bydd Llais yn bresennol i gasglu barn pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig ym Mro Morgannwg, lle byddwn yn derbyn adborth ynghylch anawsterau mynediad at wasanaethau, boed hynny oherwydd teithio neu signal gwael yn yr ardal.