Egwyddorion y Bobl
O fis Gorffennaf i fis Tachwedd 2025, bu Llais yn cymryd rhan mewn sgwrs Cymru gyfan gyda miloedd o bobl drwy ddigwyddiadau cenedlaethol a chymunedol, sgyrsiau un i un a thrwy rwydweithiau a chymdeithasau iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd hwn yn gyfle i rannu profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol fel rhan o brosiect Yr Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Garem.
Fe wnaethon ni siarad â phobl sy'n jyglo arosiadau amhosibl, gofalwyr sy'n cael eu hymestyn i'r pwynt o dorri, a phobl a ddywedodd wrthym beth sy'n eu cadw i fynd, beth sy'n eu rhwystro, a beth maen nhw eisiau bod yn wahanol.
Neges graidd a redodd drwy bopeth a rannodd pobl gyda ni oedd; mae pobl eisiau system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n eu trin fel bodau dynol, nid rhifau.
Mae ein adroddiad A Garem yn seiliedig ar yr hyn a ddywedodd pobl Cymru wrthym yn ystod y prosiect hwn am yr hyn sydd bwysicaf ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r 8 egwyddor rydyn ni'n eu rhannu yma yn dod yn uniongyrchol o'u profiadau nhw.
Dyma ein Egwyddorion Y Bobl.
Dylai gofal fod ar gael pryd bynnag y bo ei angen - ar-lein, dros y ffôn, neu wyneb yn wyneb - heb rwystrau a achosir gan ddaearyddiaeth, iaith, neu allgau digidol.
Mae pobl eisiau cael eu gwrando, eu credu, a'u trin â charedigrwydd ym mhob cam o'r gofal.
Ni ddylid gadael neb allan. Mae pobl eisiau diweddariadau amserol, iaith glir, a gonestrwydd ynglŷn ag oediadau.
Dylai gwasanaethau gydweithio o amgylch y person, fel nad oes rhaid i bobl ailadrodd eu stori na dod o hyd i'w ffordd trwy wasanaethau ar eu pen eu hunain.
Mae gofal lle a phryd bynnag y mae ei angen ar bobl yn hanfodol ar gyfer diogelwch, lles ac ymddiriedaeth. Pan nad oes modd osgoi aros, dylai cefnogaeth a chyfathrebu clir sicrhau bod pobl byth yn teimlo eu bod yn cael eu hanghofio.
Mae pobl eisiau gwasanaethau sy'n deall eu hamgylchiadau unigryw, yn eu trin â thrugaredd, ac yn ystyried pob agwedd ar eu hiechyd a'u bywyd, nid cyflwr yn unig.
Dylai gofal a chefnogaeth helpu pobl i fyw gydag urddas, cysylltiad a dewis. Mae angen cefnogaeth ystyrlon i ofalwyr di-dâl, gan gynnwys seibiant, cyngor a chefnogaeth emosiynol.
Dylai gofal adlewyrchu hawliau a hunaniaethau, a chael gwared ar rwystrau sy'n gysylltiedig ag iaith, diwylliant, anabledd a mynediad digidol.