Ymateb Llais i'r Strategaeth Genedlaethol Ddrafft ar gyfer Gofalwyr Di-dâl 2026
Rydym wedi bod yn gweithredu yng Nghymru ers 1 Ebrill 2023. Mae ein hymateb yn adlewyrchu'r hyn a glywsom yn uniongyrchol a thrwy eraill, yn enwedig gan bobl:
• sydd wedi ymgysylltu â ni mewn digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol
• sydd wedi defnyddio ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion i godi pryder am eu profiad.
Mae ein dealltwriaeth hefyd yn cael ei harwain gan Egwyddorion y Bobl, a ddatblygwyd gan Llais yn dilyn sgwrs genedlaethol a oedd yn cynnwys miloedd o bobl yng Nghymru.