Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Cadw chi'n wybodus: Camau nesaf ar waith ymateb ambiwlansys gwledig yn dilyn cyfarfod y Cydbwyllgor Comisiynu

NEWYDDION 18 Mawrth 2026

Cyfarfu'r Cydbwyllgor Comisiynu (CBCGC) ddydd Mawrth 17 Mawrth 2026, i ystyried ei gamau nesaf ar wella ymateb ambiwlansys mewn rhannau gwledig ac anghysbell o Gymru.

Cyfarfu'r Cydbwyllgor Comisiynu (CBCGC) ddydd Mawrth 17 Mawrth 2026, i ystyried ei gamau nesaf ar wella ymateb ambiwlansys mewn rhannau gwledig ac anghysbell o Gymru.

Mae'r gwaith hwn yn gysylltiedig, ond ar wahân i, benderfyniad cynharach y CBCGC i gydgrynhoi lleoliadau canolfannau'r Ambiwlans Awyr. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Ail-gadarnhaodd y CBCGC yng nghyfarfod yr wythnos hon na fydd unrhyw ganolfannau'n cau tra bod y gwaith o ymgysylltu a datblygu'r cynnig gwella newydd yn mynd rhagddo.

Pan wnaed y penderfyniad gwreiddiol, cynhwyswyd argymhelliad ychwanegol i archwilio opsiynau ymateb gwell, fel cerbydau ymateb cyflym, i helpu i fynd i'r afael â phryderon a godwyd gan gymunedau gwledig. Roedd y pryderon hyn yn canolbwyntio ar a fyddai pobl yn parhau i gael mynediad at ofal brys ar yr adegau cywir ac yn y lleoedd cywir.

Yng nghyfarfod yr wythnos hon, cytunodd y CBCGC i symud ymlaen â chynlluniau ymgysylltu â chymunedau gwledig i ddatblygu cynnig newydd i wella ambiwlansys gwledig.

O ystyried yr amser sydd wedi mynd heibio, bydd yn bwysig i'r CBCGC ailystyried barn cymunedau i ddeall yn llawn a yw eu pryderon yn parhau'r un fath neu a ydynt wedi newid. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y cynnig newydd yn mynd i'r afael â'r problemau go iawn y mae pobl yn eu codi ac yn cefnogi mynediad diogel a theg at ofal brys. Ni ddylai cymunedau gwledig deimlo bod eu gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu herydu'n araf neu eu bod yn cael eu gadael gyda gwasanaeth dwy haen.

Yng nghyfarfod y CBCGC, pwysleisiodd Llais yr angen am ymgysylltu agored a hygyrch, gyda chyfleoedd i bobl gymryd rhan wyneb yn wyneb ac ar-lein, fel bod gan bawb gyfle teg i gyfrannu. Fe wnaethom gynghori y dylai'r cyfnod ymgysylltu bara am 12 wythnos lawn.

Wrth i'r gwaith hwn symud ymlaen, byddwn yn annog y CBCGC i lunio'r cam nesaf o amgylch Egwyddorion y Bobl, y pethau y dywedodd pobl ledled Cymru wrthym sydd o bwys, ac yn bwysicaf yn y gwaith hwn: mynediad sy'n gweithio i bawb, gofal amserol, a chael gwrandawiad a thriniaeth ag urddas a pharch. Mae'r egwyddorion hyn yn adlewyrchu'r hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl gan eu gwasanaethau iechyd a gofal a dylent arwain sut mae gwasanaethau gwledig yn cael eu datblygu.

Byddwn nawr yn gweithio gyda'r CBCGC wrth iddynt ddylunio'r cynlluniau ymgysylltu i sicrhau bod lleisiau gwledig yn cael eu clywed yn glir ac yn ystyrlon.

Rhannwch y dudalen hon
Cyhoeddwyd gyntaf 18 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf 18 Mawrth 2026