Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Diweddariad ar ein gwaith ynglŷn â phenderfyniad CBCGC i oedi llawdriniaeth sy'n cadarnhau rhywedd

NEWYDDION 15 Medi 2026

Ar ddechrau'r mis hwn, cyhoeddodd Gwasanaeth Rhywedd Cymru - a gomisiynwyd gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (CBCGC) ac a gynhaliwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIPCAF) - y byddai atgyfeiriadau wedi'u trefnu a newydd ar gyfer llawdriniaethau cadarnhau rhywedd yn cael eu hoi. 

Ers i'r seibiant gael ei gyhoeddi, rydym wedi cwrdd ddwywaith â'r CBCGC, cyflwyno cynrychiolaeth, a pharhau i godi'n uniongyrchol gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau'r profiadau a'r pryderon a rennir gyda ni gan bobl yr effeithir arnynt. 

Trwy'r gynrychiolaeth, rydym wedi gofyn yn ffurfiol am wybodaeth a sicrwydd ynglŷn â: 

  • y broses benderfynu a arweiniodd at y seibiant; 

  • yr effaith ar bobl y mae eu hatgyfeiriadau neu lawdriniaethau wedi'u cynllunio wedi'u heffeithio; 

  • sut mae'r effeithiau hynny wedi'u hasesu ac yn parhau i gael eu monitro; 

  • y trefniadau sy'n cael eu rhoi ar waith i alluogi'r gwasanaeth i ailddechrau; ac 

  • y gefnogaeth, y wybodaeth a'r cyfathrebu sy'n cael eu darparu i'r rhai yr effeithir arnynt. 

 

Rydym yn gwybod bod y sefyllfa hon yn parhau i achosi ansicrwydd a gofid i lawer o bobl. Ers ein datganiad gwreiddiol, rydym wedi clywed gan nifer sylweddol o unigolion sydd wedi rhannu eu profiadau gyda ni. Rydym wedi clywed gan bobl ar wahanol gamau o'r llwybr llawfeddygol, gan gynnwys unigolion a oedd wedi bod yn aros am lawdriniaeth am gyfnod sylweddol o amser, pob un ohonynt wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y saib hwn. Rydym wedi rhannu'r profiadau a'r pryderon hynny gyda'r CBCGC a Gwasanaeth Rhywedd Cymru. 

Rydym hefyd yn ymwybodol o'r pryderon a godwyd gan sefydliadau cymunedol a chynrychioliadol ac o alwadau am graffu pellach ar y penderfyniad. 

Llais yw'r corff llais dinasyddion annibynnol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ein rôl yw sicrhau bod barn, profiadau a phryderon pobl yn cael eu clywed, eu deall a'u hystyried yn briodol gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau. 

Pan fydd newidiadau yn effeithio ar wasanaethau'r GIG, rydym yn ceisio deall sut mae penderfyniadau wedi'u gwneud, sut mae pobl wedi bod yn rhan o'r broses, a sut mae sefydliadau'n ymateb i'r effaith ar y rhai yr effeithir arnynt. Pan fyddwn yn credu nad yw barn pobl wedi'u hystyried yn ddigonol, neu nad yw'r ymgysylltu wedi bod yn ddigonol, neu nad yw'r broses gywir wedi'i dilyn, mae gennym ystod o opsiynau ar gael i ni i sicrhau bod y pryderon hynny'n cael eu codi a'u hystyried yn briodol. 

Ar adeg cyhoeddi'r diweddariad hwn, rydym wedi cael rhai atebion i'n cwestiynau ar lafar, gan gynnwys cadarnhad gan CBCGC ei fod wedi ymrwymo i roi gwybod i bobl, ac y dylai cleifion dderbyn llythyr yn yr wythnosau nesaf sy'n cadarnhau'r camau nesaf iddynt. 

 Ond rydym yn dal i aros am ymatebion manwl i'r cwestiynau a'r materion yr ydym wedi'u codi trwy ein cynrychiolaeth ysgrifenedig i'r CBCGC. Mae cael ac ystyried y wybodaeth honno yn parhau i fod yn flaenoriaeth, gan y bydd yn ein helpu i ddeall y ffactorau a ystyriwyd gan y pwyllgor wrth ddod i'w benderfyniad i oedi gwasanaethau, gan gynnwys yr effaith bosibl ar bobl, y trefniadau sy'n cael eu rhoi ar waith, a sut mae'r effaith ar unigolion yr effeithir arnynt yn cael ei asesu a'i reoli. 

Dim ond ar ôl i ni dderbyn ac ystyried yr ymatebion hynny y byddwn yn gallu penderfynu pa gamau a allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod profiadau, pryderon a diddordebau pobl yn cael eu cynrychioli'n briodol. 

Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser i rannu eu profiadau gyda ni. Mae eu lleisiau yn ganolog i'n gwaith ac yn parhau i lywio ein hymgysylltiad â'r sefydliadau sy'n gyfrifol am y gwasanaeth hwn. Rydym yn annog unrhyw un sydd heb gysylltu â ni eto i wneud hynny, gan fod clywed yn uniongyrchol gan bobl yn parhau i fod yn hanfodol i sicrhau bod eu profiadau yn cael eu deall a'u cynrychioli'n iawn. 

A yw eich gofal wedi'i effeithio? 

Os ydych wedi cael eich effeithio gan yr oedi i atgyfeiriadau neu weithdrefnau llawdriniaeth cadarnhau rhywedd, rydym am glywed gennych. 

Gallwch ddweud wrthym am eich profiad drwy lenwi ein harolwg cenedlaethol, neu drwy siarad yn uniongyrchol ag aelod o'ch tîm lleol Lais. Beth bynnag rydych chi'n ei ddewis, rydyn ni yma i wrando. 

Rhannwch eich stori ar-lein neu cysylltwch â'ch tîm lleol Llais i siarad ag aelod o staff.  

Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn cyhoeddi diweddariadau ac atebion i gwestiynau cyffredin ar ei wefan, sydd ar gael yma.  

Rhannwch y dudalen hon
Cyhoeddwyd gyntaf 15 Medi 2026
Diweddarwyd diwethaf 15 Medi 2026