Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Llais yn Llofnodi’r Cytundeb Lluoedd Arfog

NEWYDDION 27 Tachwedd 2025

Ym mis Tachwedd 2025, roedd Llais, corff Llais y Dinesydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, wrth ei fodd yn llofnodi’r Cytundeb Lluoedd Arfog yn ystod Cynhadledd Cyflogwyr Lluoedd Arfog yng Nghymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Llofnodwyd yr addewid hwn gan Gadeirydd Llais, Yr Athro Medwin Hughes, a’r Prif Weithredwr, Alyson Thomas. Mae’r llofnodi yn cadarnhau ymrwymiad Llais i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog – gan gynnwys personél sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Drwy lofnodi’r Cytundeb, mae Llais wedi atgyfnerthu ei ymrwymiad i gymuned y Lluoedd Arfog ac i sicrhau nad ydynt dan anfantais wrth gael mynediad at wasanaethau Llais.

Byddwn yn:
•    Sicrhau mynediad teg a chyfartal at wasanaethau Llais.
•    Ystyried anghenion unigryw cymuned y Lluoedd Arfog ym mhob gweithgaredd ymgysylltu ac ymgynghori.
•    Archwilio cyfleoedd i gefnogi cyn-filwyr ac aelodau wrth gefn mewn cyflogaeth.
•    Codi ymwybyddiaeth ymhlith staff Llais am yr heriau sy’n wynebu cymuned y Lluoedd Arfog.
Er mwyn sicrhau bod ein haddewid yn trosi’n gweithredu ystyrlon sy’n fuddiol i gymuned y Lluoedd Arfog, mae Llais hefyd wedi penodi arweinydd strategol uwch i hyrwyddo’r Cytundeb o fewn y sefydliad. 

Bydd y rôl hon yn helpu i wreiddio ei egwyddorion ym mholisïau ac arferion Llais, gan sicrhau bod cymuned y Lluoedd Arfog hefyd yn cael ei hystyried yn ein gwaith gyda sefydliadau’r GIG a gofal cymdeithasol.

Rhannwch y dudalen hon
Cyhoeddwyd gyntaf 27 Tachwedd 2025
Diweddarwyd diwethaf 27 Tachwedd 2025