Llais yn ymateb i ymyrraeth Llywodraeth Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae Gweinidog Cabinet Llywodraeth Cymru dros Iechyd a Gofal wedi cyhoeddi mesurau ymyrraeth gyfeiriedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).
Bwriad y mesurau yw “i sefydlogi gwasanaethau, cryfhau arweinyddiaeth ac atebolrwydd, a gyrru gwelliant parhaol” i fwy na 700,000 o bobl yng ngogledd Cymru.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi bod mewn lefel uwchgyfeirio uchel ers 11 mlynedd, gan gynnwys mwy na thair blynedd ar y lefel fwyaf difrifol.
Mae pobl ledled gogledd Cymru wedi rhannu profiadau pryderus o wasanaethau gofal iechyd o dan BIPBC gyda Llais yn gyson. Mae'r rhain yn cynnwys arosiadau hir am asesiad a thriniaeth, anawsterau wrth gael mynediad at wasanaethau, gofal sydd wedi gostwng islaw'r safonau disgwyliedig, a methiannau mewn gofal clinigol. Byddwn yn parhau i wrando ar bobl, casglu a rhannu eu profiadau, er mwyn helpu i lunio gwelliannau i wasanaethau a rhoi darlun clir o ba un a yw newidiadau'n arwain at ofal a chanlyniadau gwell.
Dywedodd Geoff Ryall-Harvey, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Llais ar gyfer Gogledd Cymru:
“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn wynebu heriau sylweddol a hirhoedlog, ac rydym yn croesawu ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i gryfhau goruchwyliaeth, atebolrwydd a chefnogaeth ar gyfer gwelliant.
“Mae pobl ledled gogledd Cymru wedi bod yn aros amser hir i weld newid ystyrlon. I lawer, nid yw pryderon ynghylch mynediad at wasanaethau, amseroedd aros ac ansawdd y gofal maen nhw'n ei dderbyn yn faterion newydd. Bydd pobl yn disgwyl y bydd cyhoeddiad heddiw nawr yn arwain at welliannau y gallant eu gweld a'u teimlo yn eu profiadau o ofal iechyd o ddydd i ddydd.
“Y tu ôl i bob profiad gwael o ofal mae person y mae ei lesiant wedi’i effeithio. Mae pobl gogledd Cymru yn haeddu gwasanaethau sy'n ddiogel, yn amserol ac yn diwallu eu hanghenion.
“ Mae'n hanfodol bod y broses hon yn dryloyw ac yn cynnwys pobl, teuluoedd a staff rheng flaen o'r cychwyn cyntaf. Mae angen i bobl allu gweld beth sy'n newid, deall a oes cynnydd yn cael ei wneud, a chael hyder y bydd gwelliannau'n cael eu cynnal.
"Bydd Llais yn parhau i wrando ar brofiadau pobl a'u rhannu drwy gydol y broses hon i wneud yn siŵr bod eu lleisiau'n llywio gwelliant. Rydym yn annog pawb i gymryd rhan a dweud eu dweud."