Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Llais yn ymuno â'r alwad am gamau brys i ddod â gofal coridor i ben yng Nghymru

NEWYDDION 23 Mehefin 2026

Gan dynnu ar yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud wrthym am eu profiadau o ofal brys ac argyfwng, mae Llais wedi ymuno â Chymdeithas Feddygol Prydain (BMA), cyrff proffesiynol a chyrff cynrychioliadol eraill i alw am gamau brys i fynd i'r afael â gofal coridor yng Nghymru. 

Mewn llythyr at Mabon ap Gwynfor, Gweinidog y Cabinet dros iechyd a gofal, rydym yn tynnu sylw at bryderon parhaus ynghylch pobl sy'n derbyn gofal mewn coridorau, mannau aros ac amgylcheddau anaddas eraill, yn aml am gyfnodau hir o amser, oherwydd pwysau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. 

Ar y cyd, rydym yn gofyn i'r Gweinidog Cabinet gymryd camau ar unwaith, gan gynnwys cyflwyno diffiniad cenedlaethol o ofal coridor, a chasglu a chyhoeddi data ledled Cymru, fel bod gofal coridor yn cael ei fonitro fel mater diogelwch cleifion ar draws GIG Cymru. 

Rydym hefyd eisiau i fyrddau iechyd nodi sut y byddant yn lleihau ac yn dileu gofal coridor, ochr yn ochr â dull cydlynol, system-gyfan o fynd i'r afael â'r achosion sylfaenol. 

Yn Llais, rydym yn clywed yn rheolaidd gan bobl y mae eu profiadau'n tynnu sylw at bwysigrwydd derbyn gofal mewn amgylcheddau diogel, priodol ac urddasol. Gwyddom pan fydd gwasanaethau dan bwysau, y gall cleifion a staff gael eu heffeithio. 

Mae pobl wedi dweud wrthym am arosiadau hir am ofal; eu pryderon ynghylch preifatrwydd ac urddas; a'r effaith y gall amgylcheddau gorlawn ei chael ar eu profiad cyffredinol o wasanaethau iechyd. Mae'r profiadau hyn yn arbennig o heriol i bobl sy'n hŷn a/neu'n niwroamrywiol, yn byw ag anghenion iechyd cymhleth, yn agosáu at ddiwedd oes, neu'n profi argyfwng iechyd meddwl. 

Nid yw hwn yn fater newydd. Rydym wedi codi ein pryderon yn rheolaidd gyda byrddau iechyd yn seiliedig ar yr hyn a glywn gan bobl am yr effaith y gall amodau gorlawn ac arosiadau hir ei chael ar eu profiadau o ofal. Mae'r profiadau hyn wedi helpu i lunio ein cyfraniad at y galwad ar y cyd hon am weithredu. 

Trwy ein gwaith ledled Cymru, mae pobl yn dweud wrthym yn gyson fod gofal rhagorol yn ymwneud â mwy na thriniaeth glinigol. Maent am gael eu trin ag urddas a thrugaredd, teimlo'n ddiogel, cael eu preifatrwydd wedi'i barchu, cael eu gwrando arnynt, cael eu cynnwys mewn penderfyniadau am eu gofal, a'u cadw'n wybodus am yr hyn sy'n digwydd. Dyma'r egwyddorion y mae pobl yn dweud wrthym sydd bwysicaf, a gallant fod yn arbennig o anodd eu cynnal pan ddarperir gofal mewn amgylcheddau amhriodol. 

Rydym hefyd yn cydnabod ymdrechion rhyfeddol staff iechyd a gofal sy'n gweithio mewn amgylchiadau heriol, ac yn gwybod bod llawer o'r pwysau sy'n cyfrannu at ofal coridor yn gorwedd ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan. 

Fel llais annibynnol pobl yng Nghymru ar iechyd a gofal cymdeithasol, credwn fod yn rhaid i brofiadau pobl fod wrth wraidd ymdrechion i fynd i'r afael â gofal coridor a gwella diogelwch cleifion. 

Bydd Llais yn parhau i gyflwyno profiadau pobl a gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i gefnogi gwelliannau sy'n helpu i sicrhau y gall pawb gael mynediad at ofal diogel, urddasol a chanolbwyntio ar y person. 

Darllenwch y llythyr ar y cyd llawn yma.

Rhannwch y dudalen hon
Cyhoeddwyd gyntaf 23 Mehefin 2026
Diweddarwyd diwethaf 23 Mehefin 2026