Mae Llais yn ceisio cael rhagor o atebion pellach ar ran pobl yr effeithiwyd arnynt gan yr oedi i lawdriniaethau cadarnhau rhyw
Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaethon ni fynychu cyfarfod diweddaraf Bwrdd Pwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru (NWJCC) i barhau i godi'r profiadau, y pryderon a'r cwestiynau y mae pobl wedi'u rhannu gyda ni ynglŷn â'r oedi i atgyfeiriadau newydd ac atgyfeiriadau a drefnwyd ar gyfer llawdriniaethau cadarnhau rhywedd.
Ers cyhoeddi'r oedi, rydym wedi parhau i glywed gan bobl yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniad. Rydym wedi clywed gan bobl mewn gwahanol gamau o'r llwybr llawfeddygol, gan gynnwys unigolion a oedd wedi bod yn aros am lawdriniaeth am gyfnod sylweddol o amser.
Mae llawer o bobl wedi dweud wrthym am yr ansicrwydd maen nhw'n ei brofi, pryderon ynghylch beth sy'n digwydd nesaf, a'r angen am wybodaeth gliriach am y broses adolygu a mynediad at lawdriniaeth yn y dyfodol.
Fel corff llais annibynnol y dinasyddion ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, nid ein rôl ni yw penderfynu a oedd penderfyniad clinigol yn gywir neu'n anghywir. Ein rôl ni yw sicrhau bod barn, profiadau a phryderon pobl yn cael eu clywed, a cheisio gwybodaeth sy'n helpu pobl i ddeall penderfyniadau sy'n effeithio ar eu gofal a'u triniaeth.
Yng nghyfarfod y Bwrdd, codwyd nifer o faterion gennym yn uniongyrchol ar ran pobl sydd wedi cysylltu â ni. Nid yw'r Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (NWJCC) wedi ateb rhai o'n cwestiynau yn llawn eto, ac rydym bellach yn mynd ati i ddilyn y materion hyn gyda’r pwyllgor.
Mae pobl wedi dweud wrthym nad yw’r cymorth sydd ar gael ers cyflwyno’r oedi bob amser wedi teimlo’n ddigonol i fynd i’r afael â’r ansicrwydd a’r gofid y maent yn eu profi. Gofynnom sut y bydd y NWJCC yn sicrhau ei hun bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Dywedodd pobl wrthym hefyd eu bod yn ei chael hi’n anodd deall y broses adolygu a phryd y gallent ddisgwyl rhagor o wybodaeth. Felly, gofynnom sut y bydd cyfathrebu gyda’r unigolion yr effeithiwyd arnynt yn cael ei wella, ac awgrymwyd y gallai diweddariadau rheolaidd helpu i leihau ansicrwydd tra bo’r adolygiad yn mynd rhagddo.
Codwyd hefyd bryderon gan bobl a ddywedodd nad ydynt yn deall beth sydd angen digwydd cyn y gall atgyfeiriadau a llawdriniaethau ailddechrau, yn ogystal â phryderon ynghylch sut y sicrheir tegwch pan fydd gwasanaethau’n ailgychwyn. Yn ogystal, gofynnom gwestiynau am gwmpas yr adolygiad a pham ei fod yn canolbwyntio ar atgyfeiriadau a rhestrau aros presennol.
Mewn ymateb, dywedodd y NWJCC wrth y Bwrdd fod tri adolygydd clinigol annibynnol bellach wedi’u penodi a bod cylch gorchwyl yr adolygiad wedi’i gytuno. Deallwn y disgwylir i’r wybodaeth hon gael ei chyhoeddi’n fuan.
Dywedwyd wrthym hefyd y bydd yr adolygiad yn dechrau gyda’r grŵp o gleifion yr effeithiwyd fwyaf uniongyrchol ar eu llawdriniaethau gan yr oedi. Yn bwysig, dywedodd y Bwrdd wrthym fod modd i unigolyn ddychwelyd i’r llwybr llawfeddygol ar unwaith os bydd yr adolygwyr yn penderfynu bod hynny’n briodol, ac nad yw hynny’n dibynnu ar gwblhau’r adolygiad ehangach.
Ailadroddodd y NWJCC ei hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau llawdriniaeth cadarnhau rhywedd yng Nghymru, ond dywedodd fod yr oedi wedi’i gyflwyno yn dilyn cyngor clinigol a phryderon yn ymwneud â diogelwch cleifion. Dywedwyd wrthym hefyd fod cymorth yn parhau i fod ar gael drwy Wasanaeth Rhywedd Cymru a bod llythyrau bellach wedi’u hanfon at y cleifion yr effeithiwyd arnynt.
Yn dilyn cyfarfod y Bwrdd, cyhoeddodd y NWJCC ddiweddariad pellach yn nodi rhagor o wybodaeth am y broses adolygu.
Yn y diweddariad hwnnw, dywedodd y pwyllgor ei fod yn bwriadu dechrau drwy adolygu cleifion yr oedd eu llawdriniaethau i fod i gael eu cynnal rhwng Awst a Rhagfyr 2026, yn nhrefn eu dyddiadau llawdriniaeth a gynlluniwyd. Nodwyd hefyd ei fod yn gweithio tuag at gwblhau’r cam cyntaf hwn o’r adolygiad erbyn diwedd Rhagfyr 2026. Dywedodd y diweddariad ymhellach na fydd angen i gleifion sy’n gallu bwrw ymlaen ar ôl adolygiad unigol aros hyd nes y bydd yr adolygiad ehangach wedi’i gwblhau cyn symud ymlaen â’u trefniadau llawdriniaeth. Dywedodd y NWJCC hefyd ei fod wedi ceisio cadarnhad gan ddarparwyr llawfeddygol yn Lloegr y bydd cleifion sy’n gallu bwrw ymlaen yn cael blaenoriaeth.
Er bod y diweddariadau hyn yn darparu rhywfaint o wybodaeth ychwanegol, rydym yn cydnabod y bydd gan lawer o bobl gwestiynau a phryderon o hyd.
Mae pobl wedi dweud wrthym yn gyson mai’r ansicrwydd a’r diffyg gwybodaeth glir yw rhai o agweddau mwyaf anodd y sefyllfa hon. Felly, rydym yn parhau i annog cyfathrebu clir, amserol a hygyrch gyda’r bobl yr effeithir arnynt wrth i’r adolygiad symud ymlaen.
Mae llawer o bobl hefyd wedi dweud wrthym eu bod am ddeall sut y bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud, beth mae’r oedi yn ei olygu i’w gofal yn y dyfodol, a beth sydd angen digwydd cyn y gall atgyfeiriadau ailddechrau. Mae llawer hefyd wedi dweud eu bod am gael eglurhad cliriach ynghylch pam y barnwyd bod angen cyflwyno’r oedi ar unwaith.
Fe wnaethom godi’r materion hyn yn uniongyrchol gyda Bwrdd y NWJCC a byddwn yn parhau i geisio atebion a sicrwydd ar ran y rhai yr effeithiwyd arnynt. Trwy ein gwaith ymgysylltu parhaus, byddwn yn parhau i geisio rhagor o wybodaeth am effaith yr oedi ar unigolion yr effeithiwyd arnynt, y pryderon a arweiniodd at y penderfyniad, sut y cafodd y pryderon hynny eu hasesu, sut y cafodd yr effaith ar bobl ei hystyried, a’r trefniadau sy’n cael eu rhoi ar waith wrth i’r adolygiad fynd rhagddo.
Rydym yn dymuno diolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser i rannu eu profiadau gyda ni. Mae eu lleisiau wrth wraidd ein gwaith ac yn parhau i lywio ein hymgysylltiad â’r sefydliadau sy’n gyfrifol am y gwasanaeth hwn.
Rydym yn annog unrhyw un yr effeithiwyd arno nad yw wedi cysylltu â ni hyd yma i wneud hynny, gan fod clywed yn uniongyrchol gan bobl yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn sicrhau bod eu profiadau’n cael eu deall a’u cynrychioli’n briodol.
A yw eich gofal wedi'i effeithio?
Os ydych wedi cael eich effeithio gan yr oedi i atgyfeiriadau neu weithdrefnau llawdriniaeth cadarnhau rhywedd, rydym am glywed gennych.
Gallwch ddweud wrthym am eich profiad drwy lenwi ein harolwg cenedlaethol, neu drwy siarad yn uniongyrchol ag aelod o'ch tîm lleol Lais. Beth bynnag rydych chi'n ei ddewis, rydyn ni yma i wrando.
Rhannwch eich stori ar-lein neu cysylltwch â'ch tîm lleol Llais i siarad ag aelod o staff.
Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn cyhoeddi diweddariadau ac atebion i gwestiynau cyffredin ar ei wefan, sydd ar gael yma.