Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Rhaid i gynlluniau Gweinidog y Cabinet nawr droi’n newid go iawn i bobl

NEWYDDION 4 Mehefin 2026

Yn dilyn datganiad Gweinidog y Cabinet dros Iechyd a Gofal ar flaenoriaethau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae Llais wedi croesawu'r ffocws ar leihau amseroedd aros, gwella mynediad, cryfhau gofal cymdeithasol, ac ehangu gwasanaethau'n agosach at adref.

Yn dilyn datganiad Gweinidog y Cabinet dros Iechyd a Gofal ar flaenoriaethau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae Llais wedi croesawu'r ffocws ar leihau amseroedd aros, gwella mynediad, cryfhau gofal cymdeithasol, ac ehangu gwasanaethau'n agosach at adref.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys ymrwymiadau i ddileu arosiadau dwy flynedd o fewn misoedd, ehangu gofal sylfaenol, a buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol, ochr yn ochr â chamau gweithredu tymor hwy ar weithlu, digidol ac atal. 

Mae pwyslais clir hefyd ar wella integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, gyda ffocws ar wasanaethau mwy cydgysylltiedig a chyson ledled Cymru.

Dywedodd Alyson Thomas, Prif Weithredwr Llais:

“Mae llawer o’r hyn sydd wedi’i nodi ym mlaenoriaethau’r llywodraeth yn adlewyrchu’r hyn y mae pobl wedi bod yn ei ddweud wrthym ers peth amser. Mae pobl eisiau gwasanaethau sy'n haws eu cyrchu, wedi'u cydlynu'n well, ac sy'n darparu'r gefnogaeth gywir ar yr amser cywir, boed hynny drwy iechyd neu ofal cymdeithasol.

“Fodd bynnag, y prawf nawr fydd pa mor gyflym y bydd yr ymrwymiadau hyn yn arwain at welliannau gwirioneddol ym mhrofiadau pobl o ddydd i ddydd.

“Byddwn yn parhau i wrando ar brofiadau pobl wrth i’r cynlluniau hyn gael eu rhoi ar waith, gan ddefnyddio Egwyddorion y Bobl – yr hyn y mae pobl wedi’u dweud wrthym sydd bwysicaf iddyn nhw – i ddeall sut mae newidiadau’n gwneud gwahaniaeth o ddydd i ddydd ledled Cymru.”

Rhannwch y dudalen hon
Cyhoeddwyd gyntaf 4 Mehefin 2026
Diweddarwyd diwethaf 4 Mehefin 2026