Yr hyn a glywsom yn Gofod3 2026
Ym mis Mehefin, mynychodd Llais Gofod3, digwyddiad mwyaf Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol a chymunedol (y trydydd sector), a drefnir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Mae'r gynhadledd yn dod â chydweithredwyr o elusennau, grwpiau cymunedol, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau'r trydydd sector ynghyd i rannu syniadau, archwilio heriau a thrafod sut y gall gwasanaethau gefnogi pobl ledled Cymru yn well.
Yn ystod y digwyddiad, buom yn siarad â phobl sy'n gweithio ar draws y trydydd sector am iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Amlygodd eu mewnwelediadau'r rôl hanfodol y mae sefydliadau cymunedol yn ei chwarae wrth gefnogi pobl, yn ogystal â'r rhwystrau y mae llawer yn dal i'w hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau a'u llywio.
Rhannodd pobl heriau ar lefel system a syniadau ymarferol ar gyfer gwella. Er bod profiadau'n amrywio, daeth themâu cyffredin i'r amlwg yn ystod ein sgyrsiau.
Un o'r negeseuon cryfaf a glywsom oedd pwysigrwydd cyfathrebu clir a hygyrch.
Dywedodd pobl wrthym nad yw gwybodaeth bob amser yn hawdd ei chanfod, ei deall na'i chael mewn fformatau sy'n diwallu anghenion pobl. Soniodd eraill am bwysigrwydd gallu derbyn gwybodaeth yn eu dewis iaith a chael y wybodaeth gywir ar yr adeg gywir i'w helpu i wneud penderfyniadau am eu gofal a'u cymorth.
Clywsom hefyd am bwysigrwydd creu amgylcheddau cynhwysol.
Siaradodd pobl am sut y gall yr amgylcheddau corfforol lle darperir gofal effeithio ar brofiadau pobl. Roedd hyn yn cynnwys pryderon ynghylch defnyddio mannau aros cyhoeddus ar gyfer sgyrsiau clinigol a'r gorbryder y gall rhai lleoliadau ei greu, yn enwedig i bobl niwroamrywiol.
Thema allweddol arall oedd mynediad at wasanaethau.
Er i rai pobl rannu profiadau cadarnhaol o gael mynediad at ofal, disgrifiodd eraill rwystrau gan gynnwys heriau trafnidiaeth ac anawsterau wrth lywio gwasanaethau ar draws ffiniau sefydliadol a daearyddol. Gall yr anghysondebau hyn ei gwneud yn anoddach i bobl gael y cymorth sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt.
Clywsom hefyd gefnogaeth gref i wella eiriolaeth, ymwybyddiaeth ac arwyddbostio.
Dywedodd pobl wrthym fod angen i weithwyr proffesiynol feddu ar y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth i arwain ac eirioli dros bobl yn effeithiol. Ar yr un pryd, mae angen cymorth a gwybodaeth ar unigolion sy'n eu galluogi i eirioli drostynt eu hunain a gwneud dewisiadau gwybodus am eu gofal.
Canolbwyntiodd llawer o'r sgyrsiau ar yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu wrth symud rhwng gwasanaethau.
Disgrifiodd pobl systemau nad ydynt bob amser yn teimlo'n gydgysylltiedig, gan arwain at wybodaeth yn cael ei cholli, asesiadau yn cael eu hailadrodd a'r angen i adrodd eu stori dro ar ôl tro. Roedd teimlad cryf y dylai gwasanaethau gydweithio'n fwy effeithiol o amgylch anghenion yr unigolyn.
Crynhodd un cyfranogwr hyn drwy rannu'r newidiadau yr hoffent eu gweld:
"Un cofnod ar gyfer pob person y gellir ei ddefnyddio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol; cyllido, hyfforddiant, cymorth a chyngor ar y cyd... Mynediad hawdd at wasanaethau, lle nad oes 'drws anghywir'."
Ar yr un pryd, clywsom fyfyrdodau pwerus am gyfraniad y trydydd sector.
Siaradodd pobl am y perthnasoedd dibynadwy y mae sefydliadau cymunedol yn eu meithrin, eu gallu i arloesi, a'r rôl bwysig y maent yn ei chwarae wrth gefnogi pobl lle na all gwasanaethau statudol bob amser ateb y galw. Fodd bynnag, amlygodd llawer hefyd y pwysau a grëir gan gyllid cyfyngedig ac ansicr.
"Mae'r rhyddid sydd gennym yn y trydydd sector yn wych oherwydd gallwn wneud y pethau sy'n bwysicaf i bobl mewn modd amserol heb fynd yn sownd yng nghors polisi a biwrocratiaeth. Mae hyn yn golygu y gall arloesedd ddigwydd mewn ffordd wirioneddol a phur, a dyna sydd ei angen ar iechyd a gofal cymdeithasol ar hyn o bryd, sef arloesedd!"
Ym mhob un o'r sgyrsiau, disgrifiodd pobl system lle mae'r trydydd sector yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi unigolion a chymunedau, gan helpu'n aml i bontio'r bylchau rhwng gwasanaethau. Amlygwyd hefyd y cyfleoedd sy'n bodoli drwy gydweithio, arloesi a chryfhau partneriaethau.
Roedd yr hyn a ddywedodd pobl wrthym yn glir: gall cael eich cynnwys a'ch gwrando arnoch, derbyn gwybodaeth glir a hygyrch, profi cyfathrebu tosturiol a chael mynediad at wasanaethau cydgysylltiedig wneud gwahaniaeth sylweddol i brofiadau pobl o iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r profiadau a'r syniadau a rannwyd yn Gofod3 yn adlewyrchu themâu allweddol o fewn Egwyddorion y Bobl Llais a byddant yn helpu i lywio ein gwaith o ddylanwadu ar newid cadarnhaol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Diolch i bawb a gymerodd yr amser i siarad â ni. Mae eich mewnwelediadau yn helpu i gryfhau ein gwaith er mwyn gwneud iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy cydgysylltiedig, hygyrch ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl ledled Cymru.