Sut oedd eich gofal brys ar yr un diwrnod?
Yn yr hydref y llynedd, ymwelsom ag unedau gofal brys ar yr un diwrnod ledled Cymru i ddysgu am brofiadau pobl o ofal brys.
Rhannodd pobl ledled Cymru eu profiadau, gan dynnu sylw at fylchau difrifol mewn gofal.
Fe wnaethon ni gynhyrchu adroddiad a rhannu'r hyn a ddywedodd pobl wrthym gyda Llywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd.
Gofynnom beth oeddent yn ei wneud i wella'r sefyllfa. Dywedasant wrthym am lawer o waith sy'n cael ei wneud i wneud mynediad at ofal brys ar yr un diwrnod a'i ddefnyddio'n well.
Rhwng 20 Hydref a 9 Tachwedd rydym yn ailymweld ag unedau gofal brys ar yr un diwrnod i weld sut mae pobl yn profi gofal brys flwyddyn yn ddiweddarach.
Rydym am wybod a yw'r newidiadau a wnaed yn arwain at ofal gwell i bobl neu a oes mwy i'w wneud o hyd.
Gallwch rannu eich barn mewn nifer o ffyrdd:
Yr arolwg hwn: https://forms.office.com/e/8180JTgPTQ
Os hoffech gymryd rhan mewn trafodaeth grŵp ar-lein, archebwch eich lle gan ddefnyddio'r dolenni canlynol:
Sesiwn 1: >dolen eventbrite<
Sesiwn 2: >dolen eventbrite<
Os byddai'n well gennych siarad â rhywun
Byddai ein timau'n fwy na pharod i siarad â chi dros y ffôn neu ar-lein os byddai'n well gennych rannu eich barn ar ofal brys ar yr un diwrnod yn y ffordd honno.
Gallwch gysylltu â'ch tîm agosaf yma neu gysylltu ar 02920 235 558