Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Ein Blaenoriaethau Strategol drafft – Ebrill 2024 – Mawrth 2027

Wrth i ni weithio gyda chi i ddeall beth sydd bwysicaf, rydym wedi nodi pum blaenoriaeth allweddol i ganolbwyntio ein gwaith dros y tair blynedd nesaf.

Mae ein Blaenoriaethau Strategol yn seiliedig ar yr hyn yr ydym wedi'i glywed gennych chi, gan sefydliadau eraill, ac o ymchwil.  Byddwn yn parhau i wrando a dysgu er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud pethau'n iawn.

Rydym wedi meddwl am yr anawsterau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol nawr, ac yn y dyfodol, a sut y gallwn gynrychioli eich llais i sicrhau bod pobl yn cael eu cadw wrth wraidd gwasanaethau.

1. Eirioli a dylanwadu ar wasanaethau i fod yn bobl-ganolog, yn hygyrch, yn sensitif ac yn ymatebol i anghenion unigol, cymunedol a chenedlaethol. 

a. Atal a'r tymor hir 

b. Atebion yn y gymuned 

c. Gwasanaethau sy'n ddiwylliannol sensitif ac ymatebol 

d. Cydnabod a lleihau anghydraddoldebau iechyd a gofal cymdeithasol

e. Gofalu am eraill 

2. Pwysau ar wasanaethau a'r effaith a gaiff hyn ar bobl a chymunedau, gwasanaethau a'r gweithlu. 

a. Diogelwch cleifion 

b. Iechyd a gofal brys ac argyfyngus pryd a ble mae ei angen 

c. Gofal wedi'i gynllunio 

d. Iechyd meddwl 

e. Heriau a datblygiad y gweithlu 

3. Aliniad, integreiddio, a phartneriaethau. Dod o hyd i'n ffordd drwy'r heriau. 

a. Alinio a chydgysylltu trafodaethau cyhoeddus dwy ffordd a dadl am iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, er mwyn osgoi dyblygu a sicrhau'r effaith fwyaf posibl.

b. Eiriol dros wasanaethau cydlynol lle nad yw pobl yn teimlo symudiad o un gwasanaeth i’r llall. 

c. Partneru a rhannu er mwyn cael yr effaith fwyaf a gwneud y defnydd gorau o adnoddau gwerthfawr 

d. Cefnogi a grymuso pobl a chymunedau 

e. Dysgu gan eraill a beth sydd wedi mynd o'r blaen 

4. Digidol, Data, Technoleg Gwybodaeth a Deallusrwydd Artiffisial (AI) a'r effaith ar iechyd a gofal cymdeithasol pobl. 

a. Gwasanaethau digidol a chynhwysiant 

b. Defnyddio data a gwybodaeth i wella gwasanaethau (diogel, sicr, y gellir ymddiried ynddynt). 

c. Defnyddio datrysiadau awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial mewn ffordd foesegol a chyfrifol. 

d. Rôl Ddigidol, Data a Thechnoleg Gwybodaeth mewn gwasanaethau cyfathrebu a hygyrch. 

e. Defnyddio Technoleg Ddigidol, Data a Gwybodaeth i baratoi ar gyfer anghenion a thueddiadau’r dyfodol. 

5. Esblygu fel sefydliad i ddod yn sefydliad aeddfed, sy'n cael ei redeg yn dda, y gellir ymddiried ynddo ac sy'n uchelgeisiol. 

a. dod yn arweinydd mewn dylunio gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar bobl, mewnwelediad ac ymagweddau ymgysylltu 

b. optimeiddio’r ffordd rydym yn gweithio er mwyn sicrhau’r effeithlonrwydd a’r effaith fwyaf posibl, a chwilio am gyfleoedd a ffyrdd newydd o weithio 

c. gweithio gydag eraill ar draws pob sector i gefnogi ei gilydd i gael effaith ystyrlon. 

d. ehangu ar ddull lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy'n canolbwyntio ar gryfderau ac arfer da 

e. datblygu ein pobl ac esblygu ein diwylliant i ddod yn sefydliad hyderus sy'n dylanwadu ar eraill.

Crëwyd Llais ar eich cyfer chi

Rydym am glywed gennych am y gwaith rydym yn ei awgrymu, i sicrhau bod hyn yn cynrychioli'r hyn sydd bwysicaf. 

Dweud eich dweud ar ein blaenoriaethau drafft newydd