Y Gofal Iechyd a Chymdeithasol a Garem - Sesiwn Ar-lein - 27 Awst 2025
Rydyn ni'n gwybod bod problemau iechyd menywod yn fwy tebygol o gael eu diystyru neu eu camddiagnosio ac felly, roedden ni eisiau cynnal sesiwn iechyd menywod bwrpasol i greu lle i anghydraddoldebau iechyd o'r fath gael eu trafod a'u cynrychioli o fewn ein prosiect newydd i Gymru gyfan: yr iechyd a'r gofal cymdeithasol a garem.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn iechyd menywod neu sefydliad sy'n cefnogi menywod, yna bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg i chi o'r hyn y mae ein prosiect yn anelu at ei gyflawni a sut allwch chi ymgysylltu â menywod mewn sgyrsiau ystyrlon am iechyd a gofal cymdeithasol fel y gellir cynrychioli eu lleisiau o fewn canfyddiadau ein prosiect.
Archebwch nawr: https://www.eventbrite.co.uk/e/1496136948889?aff=oddtdtcreator
Neu llenwch ein harolwg ar-lein.