Digwyddiadau
Y Gofal Iechyd a Chymdeithasol a Garem - Sesiwn Ar-lein - 27 Awst 2025
Rydyn ni'n gwybod bod problemau iechyd menywod yn fwy tebygol o gael eu diystyru neu eu camddiagnosio ac felly, roedden ni eisiau cynnal sesiwn iechyd menywod bwrpasol i greu lle i anghydraddoldebau iechyd o'r fath gael eu trafod a'u cynrychioli o fewn ein prosiect newydd i Gymru gyfan: yr iechyd a'r gofal cymdeithasol a garem.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn iechyd menywod neu sefydliad sy'n cefnogi menywod, yna bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg i chi o'r hyn y mae ein prosiect yn anelu at ei gyflawni a sut allwch chi ymgysylltu â menywod mewn sgyrsiau ystyrlon am iechyd a gofal cymdeithasol fel y gellir cynrychioli eu lleisiau o fewn canfyddiadau ein prosiect.
Y Gofal Iechyd a Garem - Sesiwn Ar-lein - 3ydd Medi 2025
Rydym yn gwybod bod gofalwyr yn wynebu canlyniadau iechyd gwaeth gan gynnwys lefelau uwch o straen a hwyliau isel a gwasanaethau gofal cymdeithasol annibynadwy, a dyna pam rydym am sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu cynrychioli yn ein prosiect Cymru gyfan newydd: yr iechyd a'r gofal cymdeithasol a garem.
Rydym yn ymwybodol y gallai gofalwyr wynebu cyfyngiadau ar pryd y gallant ymgysylltu â ni sy'n cyd-fynd â'u cyfrifoldebau gofalu. Rydym yn cynnal sesiwn ar-lein bwrpasol i roi cyfle o bell i ofalwyr gysylltu â ni ac i ddarganfod sut y gallant ddweud eu dweud ar ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Rydym hefyd am gysylltu â sefydliadau sy'n gweithio'n agos gyda gofalwyr i rannu ein canllaw hunan-hwyluso fel offeryn iddynt allu ymgysylltu â gofalwyr mewn sgwrs ystyrlon am iechyd a gofal cymdeithasol, ac i roi adborth ar eu cyfraniadau i ni.
Y Gofal Iechyd a Chymdeithasol a Garem - Sesiwn Ar-lein - 10fed Medi 2025
Yn y sesiwn hon, rydym yn gwahodd plant a phobl ifanc a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi i ymuno â ni i gael cipolwg ar ein prosiect newydd i Gymru gyfan: yr iechyd a'r gofal cymdeithasol a garem.
Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar sut y gellir addasu ein gweithgareddau a'n hadnoddau ymgysylltu i helpu plant a phobl ifanc i gymryd rhan a dweud eu dweud ar yr hyn y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn ei olygu iddynt, a sut yr hoffent i iechyd a gofal cymdeithasol edrych yn y dyfodol.