Gwirfoddolwch gyda ni
Mae gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol a chynyddol o’n gwasanaeth – ac rydym yn recriwtio ym mhob rhan o Gymru.
Nid ydym yn gwerthfawrogi’r cyfraniad y mae ein gwirfoddolwyr yn ei wneud drwy roi o’u hamser am ddim yn unig, rydym yn darparu hyfforddiant a datblygiad, amrywiaeth o rolau diddorol, trefniadau gweithio hirdymor yn ogystal â thymor byr a bob amser yn hyblyg sy’n addas i chi.
Rydym yn chwilio am unigolion o bob un o gymunedau amrywiol Cymru i gasglu barn pobl mewn amrywiaeth eang o rolau gwirfoddol:
Casglwr Adborth Ar-lein
Coladu profiadau pobl o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol trwy fforymau ar-lein, gwefannau adolygu, cyfryngau cymdeithasol ac ymgynghoriadau ffurfiol - mae hyn yn arbennig o bosibl o gartref.
Gwirfoddolwr Ymweliadau
Byddwch yn mynychu lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol ar ymweliadau wedi’u cynllunio i wrando ar farn y bobl sy’n derbyn y gwasanaeth. Bydd yr ymweliadau a’r sgyrsiau hyn gyda phobl yn ein helpu i ddeall beth maen nhw’n meddwl sy’n dda am eu profiad ac unrhyw feysydd i’w gwella y maen nhw am eu hawgrymu.
Gwirfoddolwr Ymweliadau Rhithwir
Unwaith eto, yn wir bosibl o gartref, byddwch yn cwrdd â phobl sy’n derbyn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol neu eu teuluoedd/gofalwyr ar-lein i gasglu eu barn am y gwasanaeth.
Gwirfoddolwr Ymgysylltu Cymunedol
Byddwch yn ymuno â’ch tîm Llais lleol i gwrdd â phobl yn y gymuned, ar-lein ac wyneb yn wyneb, i gasglu eu barn a’u profiadau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol lleol.
Gwirfoddolwr Cynrychioli
Byddwch yn mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau ar ran Llais, gan gyflwyno ein safbwynt pan fo angen, cymryd cofnod o’r cyfarfod a bwydo gwybodaeth berthnasol yn ôl i dîm ehangach Llais.

Gwirfoddolwch gyda ni
Mae gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol a chynyddol o’n gwasanaeth – ac rydym yn recriwtio ym mhob rhan o Gymru.