Cynrychiolaeth
Fel Corff Llais y Dinesydd, rydym yn casglu eich barn, yn eu dadansoddi, ac yn eu rhannu â phenderfynwyr allweddol yng Nghymru. Ein nod yw sicrhau bod eich llais yn siapio'r gwasanaethau a gewch. Rydym yn dilyn proses ffurfiol ar gyfer cynrychioli eich barn.
O dan Adran 15(1) o Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, gallwn godi materion gyda chyrff y GIG ac awdurdodau lleol yng Nghymru. Gallai’r materion hyn ddod o ymgynghoriadau gan y cyrff hyn neu drwy ein hymgysylltiad ein hunain â’r cyhoedd.
I gael esboniad manwl o sut rydym yn cynrychioli eich barn, gallwch gyfeirio at y Canllawiau Statudol ar sylwadau a wnaed gan Gorff Llais y Dinesydd.
Mae’r broses sylwadau yn caniatáu ichi gael llais wrth lunio’r modd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn ffordd sy’n gweithio i chi. Mae'n golygu bod gwasanaethau'n cael eu cynllunio gyda chi mewn golwg.
Mae’n rhaid i ddarparwr gwasanaeth ddweud wrthym beth mae’n mynd i’w wneud â’r sylwadau a wnawn. Os na allant weithredu ar y sylw, rhaid iddynt roi rheswm dilys i ni.
Rydym hefyd yn gweithio ar wella sut rydym yn cyfleu effaith y cynrychioliadau hyn yn ôl i chi. Cyn bo hir byddwch yn gallu gweld y diweddariadau hyn trwy ein cylchlythyr, cyfryngau cymdeithasol, a'r sefydliadau sy'n ein helpu i ymgysylltu â chi. Gallwch ddysgu mwy am ganlyniadau ein gwaith ar ein tudalen Effaith.