Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Datganiad Hygyrchedd Llais

Hyrwyddo ein Gweithgareddau a bod o fewn cyrraedd i bobl Cymru

Cyflwyniad

Rydyn ni eisiau i bawb sy'n byw yng Nghymru wybod pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud a'r gwahaniaeth rydyn ni'n ei wneud. Rydym am i'n gweithgareddau a'n gwasanaethau fod yn hawdd i'w darganfod. Rydyn ni eisiau i bawb allu cael mynediad i'n gwasanaethau a rhannu eu barn a'u profiadau gyda ni yn hawdd, yn y ffordd sy'n diwallu eu hanghenion unigol orau.

Rydyn ni'n gwybod bod gan bob un ohonon ni anghenion gwahanol ar adegau gwahanol ac mewn amgylchiadau gwahanol. Mae gallu pobl i ymgysylltu â ni neu ddefnyddio ein gwasanaethau yn gallu cael ei effeithio gan lawer o bethau.

Gallai hyn gynnwys, er enghraifft:

  • Eu lleoliad – efallai eu bod yn byw mewn rhan o Gymru lle mae'r Wi-Fi 
    yn araf, neu ddim ar gael o gwbl. Efallai eu bod mewn lle na allant 
    rannu eu barn a'u profiadau gyda ni heb i eraill glywed. Efallai na allant fynd allan er mwyn ymweld â ni
  • Eu hiechyd – efallai eu bod wedi blino, yn gwella ar ôl strôc neu â braich 
    sydd wedi torri
  • Eu hoffer - fe allen nhw fod ar ffôn symudol, neu ddefnyddio hen offer
  • Eu hanghenion cyfathrebu – efallai y bydd ganddynt golled golwg neu 
    glyw, neu efallai eu bod yn niwroamrywiol.

Mae'r polisi hwn yn nodi sut y byddwn yn weladwy ac yn hygyrch ym mhob 
rhan o Gymru.

Hyrwyddo ymwybyddiaeth o'n rôl a'n gweithgareddau

Delwedd
Diverse Women Volunteers image

Byddwn yn gwneud llawer o wahanol bethau i helpu i sicrhau bod pobl yn gwybod amdanom ni, y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu a sut y gallant gymryd rhan yn ein gweithgareddau. Bydd hyn yn cynnwys:

Ein gweithgareddau hyrwyddo

Byddwn yn cynnal ystod o ymgyrchoedd hyrwyddo i wneud pobl yn ymwybodol o'n rôl, ein gwasanaethau, a'n gweithgareddau. Bydd hyn yn cynnwys pethau fel:

  • Ymgyrch cyfryngau a marchnata i gefnogi'r gwaith olansio ein sefydliad. Bydd hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth mewn lleoliadau cymunedol lleol drwy bethau fel darparu posteri a thaflenni, hysbysiadau cyfryngau rhanbarthol a chenedlaethol a hysbysebion radio, a hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol 
  • ymgyrchoedd wedi'u targedu i godi ymwybyddiaeth a chefnogi pobl i gael mynediad i'n gwasanaeth eiriolaeth cwynion annibynnol, cyfrinachol 
  • ymgyrchoedd wedi eu targedu i godi ymwybyddiaeth ac annog pobl i rannu eu barn a'u profiadau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Gall hynny fod yn ymwneud â gwasanaethau i bobl sy'n byw mewn rhan benodol o Gymru, ar gyfer pobl sydd wedi neu a allai ddefnyddio gwasanaethau penodol, neu ar gyfer pobl y mae eu lleisiau'n cael eu tangynrychioli mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Ein staff a gwirfoddolwyr 

Byddwn yn cyfarparu ein holl staff a gwirfoddolwyr i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'n rôl, ein gweithgareddau, a'n gwasanaethau ym mhopeth y maent yn ei wneud. 

Byddwn ni'n eu helpu i wneud hyn beth bynnag maen nhw'n ei wneud a lle bynnag maen nhw'n gwneud eu gweithgareddau yng Nghymru. 

Byddwn yn gwneud hyn drwy eu darparu gyda'r dysgu, y wybodaeth, a'r deunyddiau sydd eu hangen arnynt

Partneriaid 

Byddwn yn cydweithio â phobl a grwpiau sy'n ymwneud â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy'n byw ym mhob rhan o Gymru. 

Mae hyn yn cynnwys cynrychiolwyr a grwpiau cymunedol, cyrff GIG, lleol awdurdodau, cyrff 3ydd sector ac arolygwyr a rheoleiddwyr. 

Byddwn yn gweithio gyda nhw i'n helpu i godi ymwybyddiaeth o'n rôl, ein gweithgareddau a'n gwasanaethau. 

Byddwn yn darparu'r wybodaeth a'r deunyddiau sydd eu hangen arnynt. Bydd hyn yn eu helpu i adael i'r bobl y maen nhw'n gweithio gyda, a darparu gwasanaethau i wybod amdanom ni.

Ein gweithgareddau ar-lein

Byddwn yn lansio ac yn defnyddio ein gwefan ynghyd ag ystod eang o gyfryngau cymdeithasol ac offer digidol eraill. Byddwn yn defnyddio'r gwahanol ffyrdd hyn o rannu gwybodaeth am bwy ydym ni, beth rydyn ni'n ei wneud, sut rydyn ni'n ei wneud a'r gwahaniaeth rydyn ni'n ei wneud.

Byddwn yn defnyddio ein presenoldeb digidol i roi gwybod i bobl amdanom ni, ein cynlluniau, a'n gweithgareddau yn lleol, yn rhanbarthol, ac yn genedlaethol, a sut y gallant gymryd rhan.

Byddwn yn sicrhau ein holl gweithgareddau digidol yn cael eu dylunio a'u gweithredu mewn ffordd sy'n ateb anghenion gwahanol pobl. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, byddwn yn dechrau gyda bodloni'r gofynion hygyrchedd sy’n cael eu gosod ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus.

Ein cyhoeddiadau a'n defnyddiau

Byddwn yn cynhyrchu ac yn rhannu ystod eang o gyhoeddiadau a deunyddiau hyrwyddo er mwyn rhoi gwybod i bobl amdanom ni, ein gweithgareddau a'r gwahaniaeth rydyn ni'n ei wneud.

Byddwn yn defnyddio iaith syml, bob dydd yn ein holl gyhoeddiadau a deunyddiau. Byddwn yn gwneud ein cynnwys a'n dyluniad yn ddigon clir a syml fel y gall y rhan fwyaf o bobl ei ddefnyddio heb angen i'w addasu

Byddwn ni hefyd yn cefnogi pobl sydd angen addasu pethau.

Byddwn yn cynhyrchu ein cyhoeddiadau a'n deunyddiau mewn ystod eang o wahanol fformatau. 

Bydd hyn yn cynnwys: 

  • ystod o ieithoedd cymunedol 
  • hawdd i’w ddarllen 
  • fideo, gan gynnwys isdeitlau a dehongliad BSL 

Byddwn hefyd yn cynnig amrywiaeth o fformatau eraill i bobl sy'n gofyn amdano i ddiwallu eu hanghenion unigol. Gall hyn gynnwys pethau fel print bras a braille.

Casglu barn pobl

Delwedd
Woman speaking at support group

Rydym am i bobl allu rhannu eu barn a'u profiadau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gyda ni'n hawdd, ble bynnag maen nhw'n byw yng Nghymru. 

Er mwyn helpu pobl i wneud hyn, byddwn ni'n gweithio mewn llawer o wahanol ffyrdd.

Lleoliadau gwaith 

Er mwyn i bobl allu rhannu eu barn a'u profiadau gyda ni wyneb yn wyneb pan fyddant eisiau, bydd ein staff a'n gwirfoddolwyr yn cynnal ein gweithgareddau yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. 

Byddwn yn gweithio fel rhan o 7 rhanbarth gwahanol. Mae'r rhanbarthau hyn yr un fath â'r rhai y mae'r 7 Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yng Nghymru yn eu cynnwys. 

Bydd ein staff a'n gwirfoddolwyr yn gweithio o 12 lleoliad swyddfa Llais yng Nghymru. Byddwn ni hefyd yn eu cefnogi i weithio o fannau gweithio cymunedol lleol eraill. 

Gweithgareddau yn y gymuned

Byddwn yn cynllunio ystod eang o weithgareddau cymunedol i'w clywed gan bobl am eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn llefydd lle mae pobl yn byw, gweithio, ac ymlacio.

Byddwn hefyd yn ymweld â mannau lle mae pobl yn derbyn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i bobl sydd efallai methu mynd allan i rannu gyda ni’r pethau sydd fwyaf pwysig iddyn nhw am eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Gweithgareddau ar-lein 

Rydym yn gwybod bod llawer o bobl eisiau rhannu eu barn a'u profiadau ar-lein. Mae hyn yn haws i lawer o bobl ei wneud, ac yn aml mae'n golygu eu bod nhw'n gallu ei wneud ar adeg sy'n gweddu orau iddyn nhw. 

Byddwn ni'n darparu llawer o wahanol ffyrdd y gallant wneud hyn. Bydd hyn yn cynnwys: 

  • adborth cyffredinol 
  • arolygon 
  • polau 
  • grwpiau trafod
  • nodiadau ‘post-it’ rhithwir
  • storïau
  • negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol

Ffôn 

Mae unrhyw un sydd eisiau rhannu eu barn a'u profiadau gyda ni dros y ffôn yn gallu gwneud hynny. Os yw hyn tu allan i'n horiau arferol, byddant yn gallu gadael neges fel y gallwn eu galw'n ôl.

Darparu ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion

Delwedd
Support worker visits senior woman

Byddwn yn gofyn i unrhyw un sydd eisiau cymorth i godi pryder am eu gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol sut y bydden nhw'n hoffi i ni eu cefnogi.

Bydd y dull yr ydym yn ei gymryd yn dibynnu ar eu hanghenion a'u hamgylchiadau unigol.

Gall hyn gynnwys darparu gwasanaeth lle mae pobl yn byw neu'n aros, e.e., mewn cartref gofal preswyl neu mewn carchar.

Iaith

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi fod pobl yn gallu rhannu eu barn, barn a phrofiadau gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn eu hiaith eu hunain. 

Yn ogystal â darparu ein gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg, byddwn yn cefnogi pobl i rannu eu barn a'u profiadau gyda ni. Mae hyn yn cynnwys siarad gyda ni mewn amryw o ieithoedd gwahanol gan ddefnyddio cyfieithiad cyfrinachol a gwasanaeth dehongli.

Sicrhau bod ein holl weithgareddau a'n gwasanaethau yn hygyrch

Hygyrchedd yw gwaith ein tîm cyfan

Byddwn yn sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu cymryd rhan yn ein gweithgareddau a defnyddio ein gwasanaethau. Felly, byddwn yn sicrhau: 

  • bod pawb yn Llais yn meddwl sut gallai pobl gael mynediad i, a defnyddio ein gwasanaethau o'r dechrau. Bydd hyn yn ein helpu:
  • sicrhau nad ydyn ni'n gwahardd unrhyw un 
  • i ddarganfod yn gynnar os nad yw unrhyw beth a wnawn mor hawdd i'w gyrchu ag y dylai fod. 
  • bod ein staff a'n gwirfoddolwyr yn deall hygyrchedd, a sut i osgoi gwneud pethau'n anoddach nag y dylen nhw fod yn ddamweiniol 
  • mae'r rhai rydyn ni'n gweithio gyda nhw i'n cefnogi ni i wneud ein gweithgareddau yn deall hygyrchedd hefyd. Byddwn yn gweithio gyda nhw i adeiladu hyn i'r cynhyrchion a'r gwasanaethau y maent yn eu dylunio neu'n eu darparu ar ein cyfer.

Adborth

Byddem wrth ein boddau'n clywed beth rydych chi'n ei feddwl am ein polisi. 

Byddem wrth ein boddau'n clywed eich syniadau a'ch awgrymiadau am sut rydyn ni'n gwneud pethau. Byddwn yn defnyddio'r hyn rydych chi'n ei ddweud wrthym i helpu i wneud i'n dyfodol weithio'n well.

Manylion cyswllt 

33 / 35 Heol y Gadeirlan,
Caerdydd,
CF11 9HB
ffôn: 02920 235 558
e-bost: [email protected]

Adborth

Lawrlwythwch ein Datganiad Hygyrchedd (pdf)

Byddem wrth ein boddau'n clywed beth rydych chi'n ei feddwl am ein polisi. 

Byddem wrth ein boddau'n clywed eich syniadau a'ch awgrymiadau am sut rydyn ni'n gwneud pethau. 

Byddwn yn defnyddio'r hyn rydych chi'n ei ddweud wrthym i helpu i wneud i'n dyfodol weithio'n well.

Manylion cyswllt 

33 / 35 Heol y Gadeirlan,
Caerdydd,
CF11 9HB
ffôn: 02920 235 558
e-bost: [email protected]