Hyrwyddo ac Ymwybyddiaeth
O dan y Ddeddf, rhaid inni wneud y cyhoedd yng Nghymru yn ymwybodol o bwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud.
Rydym yn gwneud hyn mewn sawl ffordd, megis:
- Llais lleol
- prosiectau rhanbarthol
- digwyddiadau rhanbarthol a Chymru gyfan
- ymgyrchoedd hysbysebu a marchnata
- mynychu pwyllgorau
- rhwydweithio
- cyflwyniadau i grwpiau â diddordeb
- partneriaethau
Mae gan gyrff y GIG ac awdurdodau lleol hefyd ddyletswydd i godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau am ein gweithgareddau yn Llais.
Rydym yn cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd ac yn rhannu gwybodaeth gyda’r GIG ac awdurdodau lleol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ein cynllun gwaith ac i wneud yn siŵr eu bod yn cyrchu’r wybodaeth gywir i’w helpu i hysbysu eraill am Llais.
I ddarganfod mwy am sut y gallwch gefnogi ein hymgyrchoedd presennol a helpu i rannu’r gair am Llais, cliciwch yma.