Mair Gwynant
Yn wreiddiol o Gymru Ganol ac yn siaradwr Cymraeg rhugl, rwy’n byw yng Nghaerdydd gyda’m gŵr, ond rwy’n teithio’n rheolaidd i Gymru Ganol a’r Gogledd ar gyfer ymweliadau teuluol ac ymrwymiadau gwaith.
Rwy’n gyfrifydd siartredig ac wedi gweithio fel gweithiwr proffesiynol ym maes cyllid ers dros 30 mlynedd ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat ac elusennol. Dros y 10 mlynedd diwethaf, rwyf wedi rhedeg ymarfer ymgynghori sy’n darparu gwasanaethau datblygu busnes i fentrau cymdeithasol ac elusennau.
Rwyf hefyd wedi gwasanaethu ar amryw o fyrddau a phwyllgorau. Ar hyn o bryd, rwy’n gadeirydd pwyllgorau Risg ac Archwilio Comisiynydd y Gymraeg a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ac yn aelod o Fwrdd Adnodd Cyf, y sefydliad sy’n comisiynu adnoddau addysgol dwyieithog i gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Rwy’n angerddol am sicrhau bod sefydliadau’n cael eu rhedeg yn dda, gyda llywodraethu cadarn, rheoli risg effeithiol a rheolaeth ariannol gadarn. Rwyf wedi arwain sawl adolygiad strategol o sefydliadau a rhaglenni newid o fewn y sector cyhoeddus.
Rwyf hefyd yn angerddol am sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i esblygu i ddiwallu anghenion dinasyddion, yn awr ac yn y dyfodol, gan sicrhau defnydd gwell o arian cyhoeddus ac adnoddau tra’n cyflawni newid gwirioneddol a chynaliadwy ym mywydau pobl. Mae sicrhau bod lleisiau dinasyddion yn cael eu clywed a’u cynrychioli yn hanfodol i’r newid hwn.
Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio fy ngwybodaeth, fy arbenigedd a’m profiadau personol i gefnogi datblygiad Llais ac i helpu i yrru newid cadarnhaol i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru.
