Rhanbarth Gorllewin Cymru - Adroddiad Anableddau Dysgu Mawrth 2025
Gwyddom nad ydym yn aml yn clywed gan bobl ag anableddau dysgu am eu barn a’u profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn golygu bod angen i ni wneud mwy o ymdrech i ganfod eu barn a’u profiadau . Yn lle aros i bobl gysylltu â Llais i rannu eu barn, mae angen i ni gwrdd â phobl ag anableddau dysgu, eu gofalwyr , ffrindiau, teuluoedd ac eraill, i weld beth y gallwn ei ddarganfod a beth maent am ei rannu gyda ni.
