Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Maniffesto Etholiadau’r Senedd 2026 - Fersiwn Hawdd i'w Ddarllen
Mae’r maniffesto hwn yn ategu’r gwaith hanfodol hwnnw drwy ganolbwyntio ar yr hyn y mae pobl yn ei brofi mewn gwirionedd pan fyddant yn defnyddio gwasanaethau, a’r newidiadau ymarferol a fyddai’n gwneud i iechyd a gofal weithio’n well iddynt.
Pobl wrth galon iechyd a gofal cymdeithasol: Persbectif ein Cadeirydd
Yr Athro Medwin Hughes ar weledigaeth sy’n person-ganolog ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
Egwyddorion y Bobl
Ledled Cymru, rhannodd miloedd o bobl eu profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol.
Roedd eu lleisiau’n glir: “Trin ni fel pobl, nid rhifau.”
Mae’r egwyddorion hyn yn adlewyrchu’r hyn sydd bwysicaf iddyn nhw ac yn cynnig canllaw ar gyfer llunio gwasanaethau sy’n gweithio i bawb.