Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
CIC Aneurin Bevan - Adroddiad Ymgysylltu Defnyddio Gwasanaethau'r GIG yn CEF Prescoed a Brynbuga
Fel rhan o'n cynllun blynyddol, roeddem am ddeall profiadau pobl o ddefnyddio gwasanaethau'r GIG yn ystod eu cyfnod yng Ngharchar Ei Fawrhydi (CEF) Prescoed a Brynbuga.
Canllaw Eiriolaeth
Bydd y canllaw hwn yn dweud wrthych beth i'w ddisgwyl os byddwch yn penderfynu gweithio gyda gwasanaeth eiriolaeth Llais er mwyn codi pryder am y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Ein Cynllun 100 Diwrnod - Hawdd i'w ddarllen
Wrth gyhoeddi ein cynllun 100 diwrnod rydym am dynnu sylw at ein hymrwymiad a'n hymgyrch i gymryd camau cynnar fydd yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau ym mhob rhan o Gymru. Byddwn ni'n hyrwyddo eu hawliau a'u disgwyliadau i allu cael mynediad i'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnyn nhw yn y ffordd maen nhw ei angen