Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Cynllun Blynyddol Llais 2026-2027
Wrth i ni ddechrau blwyddyn olaf ein Cynllun Strategol 3 blynedd, mae Llais mewn cyfnod hollbwysig.
Rydym wedi sefydlu ein hunain fel llais annibynnol pobl ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym wedi meithrin perthnasoedd ar draws cymunedau, gwasanaethau a llywodraeth. Rydym wedi dangos y gall profiad bywyd, pan gaiff ei gasglu’n ofalus a’i gyflwyno’n gredadwy, ddylanwadu ar newid.
Eleni, rydym yn wynebu her a chyfle. Bydd Llywodraeth newydd i Gymru yn dod i rym yn dilyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026, gan ddod â blaenoriaethau ffres a ffocws newydd ar y materion sydd bwysicaf i gymunedau.
Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2025/26
Rydym yn falch o gyflwyno ein hail Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb, sy’n cwmpasu’r cyfnod o 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026.
Fel llais annibynnol Cymru dros iechyd a gofal cymdeithasol, mae ein gwaith yn canolbwyntio ar wrando ar bobl ar draws pob cymuned a sicrhau bod eu profiadau’n llywio gofal gwell a chanlyniadau tecach.
Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i herio anghydraddoldeb, gwahaniaethu a rhagfarn ac i gefnogi uchelgais Cymru i ddod yn genedl wrth-hiliol.
Diolch i’r cyhoedd, ein staff a’r holl bartneriaid a’n helpodd i wneud cynnydd eleni.
Maniffesto Etholiadau’r Senedd 2026 - Fersiwn Hawdd i'w Ddarllen
Mae’r maniffesto hwn yn ategu’r gwaith hanfodol hwnnw drwy ganolbwyntio ar yr hyn y mae pobl yn ei brofi mewn gwirionedd pan fyddant yn defnyddio gwasanaethau, a’r newidiadau ymarferol a fyddai’n gwneud i iechyd a gofal weithio’n well iddynt.
Pobl wrth galon iechyd a gofal cymdeithasol: Persbectif ein Cadeirydd
Yr Athro Medwin Hughes ar weledigaeth sy’n person-ganolog ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru