Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Llais Powys - Adroddiad Ymgysylltu - Y Gelli Gandryll a Thalgarth
Yn ystod mis Tachwedd 2024, cynhaliodd Llais ymgysylltiad cymunedol â ffocws yn ardal Y Gelli Gandryll a Thalgarth, yr wythfed ardal ym Mhowys i gael ei chynnwys yn ein rhaglen leol. Mae'r fenter hon yn rhan o'n hymagwedd 13 ardal sy'n cyd-fynd â strwythurau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys. Y nod oedd casglu profiadau byw o iechyd a gofal cymdeithasol gan bobl yn y trefi gwledig a'r ardaloedd cyfagos, gan gynnwys gwasanaethau a gyrchwyd dros y ffin yn Lloegr.
Deall rôl Llais mewn newidiadau iechyd a gofal cymdeithasol
Mae ein gwaith yn cwmpasu llawer o feysydd - rydym yn casglu adborth am eich profiadau, yn hyrwyddo gwelliannau yn ansawdd gwasanaethau ac yn cefnogi pobl i godi pryderon. Un agwedd bwysig ar ein gwaith yw sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed pan fydd newidiadau i wasanaethau yn cael eu hystyried.
Ymateb Llais i Adolygiad Perfformiad a Chynhyrchiant GIG Cymru a Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru
Mae Llais yn croesawu cyhoeddi adroddiad y Grŵp Cynghori Gweinidogol (MAG) ar Berfformiad a Chynhyrchiant GIG Cymru, a chynllun gweithredu manwl Llywodraeth Cymru mewn ymateb.
Rydym yn gweld hyn fel moment pwysig ar gyfer dyfodol iechyd a gofal yng Nghymru.
Mae'r dogfennau hyn yn nodi her glir i'r GIG yng Nghymru i symud o uchelgais i gyflawni, rhywbeth y mae pobl ledled Cymru wedi bod yn gofyn amdano.
Strategaeth a Pholisi Rheoli Risg Llais
Mae’r ddogfen hon yn nodi strategaeth a fframwaith polisi Llais1 ar gyfer rheoli risg, ac mae’n amlygu y bydd y sefydliad gydag amser yn symud tuag at fodel sydd hefyd yn cynnwys ac yn defnyddio fframweithiau gweithredu cadarnhaol sy’n seiliedig ar gryfderau i gynorthwyo Llais i gyflawni ei nodau ac amcanion cytunedig.