Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Adroddiadau

Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.

Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG  a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.

Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.

Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.

Cynhyrchwyd rhai o'r adroddiadau hyn gan Gynghorau Iechyd Cymuned

O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.

Hidlo yn ôl

Loading icon
Rhanbarth 1 dewis

Dewiswch ddyddiad dechrau a gorffen

100 canlyniad

Llais Powys - Crynodeb Gweithredol - Ymgysylltu Llanidloes

Yn ystod mis Chwefror 2024, bu Llais Powys yn ymgysylltu â chymuned Llanidloes a’r cyffiniau, i ddeall profiadau pobl o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd hyn yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau ymgysylltu megis arolygon, ymuno â grwpiau a sefydliadau amrywiol ar gyfer trafodaeth wyneb yn wyneb, ymweld â safleoedd lle darperir gwasanaethau iechyd a gofal a siarad â phobl mewn digwyddiadau cymunedol. Buom yn siarad â phobl o wahanol oedrannau a chyda gwahanol anghenion iechyd a gofal.

Cynllun Blynyddol Llais 2024-2025

Mae ein blwyddyn gyntaf wedi bod yn ymwneud â gwrando, dysgu a gweithio gydag eraill i ddeall yr hyn yr ydych ei eisiau a’i angen gan eich gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Fe wnaethom nodi ein cynlluniau ar gyfer ein blwyddyn gyntaf yn ein cynllun 100 diwrnod ac Ein Cynlluniau a Blaenoriaethau (Hydref 2023 - Mawrth 2024). Byddwn yn adrodd yn fanylach ar sut aeth hyn yn ein Hadroddiad Blynyddol yn ddiweddarach eleni. Roedd gennym lawer i’w wneud i sicrhau ein bod yn cael y pethau sylfaenol yn iawn i’n helpu ni i’ch cefnogi chi, i ffurfio partneriaethau newydd, ac i fod yn sefydliad sy’n cael ei redeg yn annibynnol.

Bydd hyn yn parhau i mewn i 2024, a 2025. Rydym hefyd yn gwybod pa mor bwysig yw hi eich bod yn gweld, ac yn teimlo, ein heffaith. Felly rydym wedi gwneud yn siŵr ein bod wedi meddwl sut i wneud hyn yn fwy ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2024-2025.