Adolygiad o Wasanaethau Mamolaeth yn Ysbyty Singleton
Mae Llais wedi bod yn gwrando ar fenywod, pobl sy’n geni a theuluoedd a gafodd ofal gan wasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Bae Abertawe. Rhannwyd yr hyn a ddywedodd pobl wrthym â’r Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Mamolaeth, a gofynnwyd iddynt ddangos i ni sut y gwnaeth y safbwyntiau hyn lywio eu gwaith.
Tra bod y gwaith hwn yn parhau, dyma enghreifftiau o’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni:
- Cytundeb y bydd grwp ymgynghorol yn cynnwys pobl â phrofiad o fyw, cynrychiolwyr o'r Bartneriaeth Lleisiau Mamolaeth, Llais a grwpiau trydydd sector eraill yn cael ei ffurfio i gynghori'r Panel ar yr ymagwedd at eu gwaith.
- Bydd gwasanaethau cymorth Profedigaeth, iechyd meddwl a lles ar gael i'r rhai a allai fod eu hangen.
- Bydd gwybodaeth am yr adolygiad yn cael ei gwneud yn fwy gweladwy ar wefan y Bwrdd Iechyd ac yn dilyn hynny bydd gwefan ar wahân yn cael ei lansio ar gyfer yr adolygiad ei hun.
- We are working closely with families and the Health Board to move the review process ymlaen fel y gall gwasanaethau wella i bobl.
Mae 3,200 o fabanod yn cael eu geni bob blwyddyn yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydyn ni'n gwybod efallai bod llawer ohonoch chi â straeon i'w rhannu.
Os hoffech chi ddweud eich dweud am eich profiadau o wasanaethau mamolaeth Bae Abertawe, gallwch gysylltu â ni yn ein swyddfa yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe drwy e-bost: [email protected] neu drwy ffonio 01639 683490.