Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Bydd corff newydd yn llais i bobl Cymru ar gyfer eu hiechyd a'u gofal cymdeithasol.

NEWYDDION 3 Ebrill 2023

Yr wythnos yma, mae corff newydd ac annibynnol fydd yn cryfhau grym a dylanwad lleisiau pobl wrth siapio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru yn cael ei lansio.

O 3 Ebrill 2023 bydd Llais yn disodli gwaith saith Cyngor Iechyd Cymuned Cymru sydd wedi cefnogi buddiannau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau'r GIG am bron i hanner canrif.

Bydd Llais yn trawsnewid y ffordd mae defnyddwyr gwasanaethau yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi. Gan weithio'n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ar draws gofal cymdeithasol a gofal iechyd gyda'i gilydd am y tro cyntaf, bydd yn cynnig ffordd i bobl Cymru ddweud eu dweud yn y gwaith o gynllunio a darparu'r gwasanaethau sydd mor bwysig i'w bywydau nhw a bywydau eu hanwyliaid.

Bydd staff a gwirfoddolwyr Llais yn weithgar mewn cymunedau lleol ledled Cymru, gan wrando ar farn pobl, ac yn defnyddio'r hyn maen nhw'n ei glywed i helpu i wneud iechyd a gofal cymdeithasol yn well i bawb. Bydd Llais hefyd yno i gefnogi pobl i wneud cwynion drwy wasanaeth eiriolaeth cwynion cyfrinachol

Meddai Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 

"Bydd Llais yn cryfhau lleisiau a chynrychiolaeth pobl, yn eu galluogi nhw i leisio’u barn, ac yn eu helpu i siapio eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

"Bydd Llais yn helpu i adeiladu mwy o gysylltiadau rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, unigolion a chymunedau, gan hyrwyddo llais y dinesydd sy’n wirioneddol gynrychioliadol i bawb, o bob oed, ble bynnag maen nhw'n byw yng Nghymru."

Un o brif amcanion y corff yw cynnwys lleisiau mwy amrywiol yn y sgwrs drwy weithio gyda phobl a chymunedau y mae eu safbwyntiau a'u profiadau heb eu cynrychioli’n ddigonol, er mwyn gwneud yn siŵr bod cyrff iechyd a gofal cymdeithasol, llunwyr polisïau ac eraill yn ymateb i brofiadau gan bobl o bob cefndir gwahanol.

Bydd Llais yn cynnig gofod diogel ac ymatebol i bobl rannu eu profiadau bywyd go iawn o iechyd a gofal cymdeithasol ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd hyn yn cynnwys ymweld â defnyddwyr gwasanaethau ac ymgysylltu â nhw lle maen nhw’n derbyn gwasanaethau i glywed eu barn am eu gofal iechyd a'u gofal cymdeithasol.

Meddai'r Athro Medwin Hughes, Cadeirydd Llais: 

"Drwy weithgareddau Llais, rydyn ni am greu darlun o'r hyn sy'n gweithio'n dda a ble mae angen i wasanaethau wella, gan sicrhau bod barn pobl Cymru'n cael ei chynrychioli mewn penderfyniadau pwysig.

"Ein nod yw bod yn gorff gwirioneddol gynrychioliadol sy'n canolbwyntio ar bobl. Rydyn ni o’r farn y dylai pawb yng Nghymru allu lleisio’u barn a rhannu eu profiadau yn rhwydd ac mewn ffordd sy'n dylanwadu ar newid go iawn."

Meddai Alyson Thomas, Prif Weithredwr Llais: 

"Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i bawb sy'n ymwneud â Llais wrth i ni geisio adeiladu ar waith gwerthfawr y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at barhau i ymgysylltu â holl aelodau'r gymuned ac ehangu ein gwaith i ofal cymdeithasol.

"Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn allweddol i'n llwyddiant ni ac yn grŵp mae Llais yn ei werthfawrogi'n fawr. Mae nawr yn amser gwych i ymuno wrth i ni dyfu a chyflwyno cyfleoedd gwirfoddoli newydd. Byddwn yn annog pawb i ddod i ymuno â ni a bod yn rhan o newid gwirioneddol wrth siapio dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru."

Rhannwch y dudalen hon
Cyhoeddwyd gyntaf 3 Ebrill 2023
Diweddarwyd diwethaf 3 Ebrill 2023