Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Cadw chi’n wybodus: Adolygiad Gwasanaeth Adfer a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), newid gwasanaeth a’r camau nesaf

NEWYDDION 21 Tachwedd 2025

Pan fydd rhywun yng Nghymru yn wynebu argyfwng meddygol, mae’n naturiol gofyn pwy fydd yn dod i helpu a beth mae pob gwasanaeth yn ei wneud pan fydd yn cyrraedd. Mewn rhannau gwledig o Gymru, gall hyn fod yn fwy pryderus oherwydd yr amser mae’n ei gymryd i deithio i rai cymunedau.

Cefndir
Ar ôl cyfnod o ymgynghori ac ymgysylltu, penderfynodd Pwyllgor Cydgomisiynu GIG Cymru (JCC) y llynedd i uno’r safleoedd EMRTS yn y Trallwng a Chaernarfon i un safle yng Ngogledd Cymru.
Rydym yn gwybod bod hyn wedi pryderu llawer o gymunedau, yn enwedig yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru, gan eich bod wedi mynegi pryder am ba ddarpariaeth cludiant brys fydd ar gael yn y dyfodol, a sut y bydd yn gwasanaethu pob cymuned ledled Cymru.
Heriodd rhywun y penderfyniad hwn yn ddiweddarach drwy Adolygiad Barnwrol, sef proses gyfreithiol sy’n caniatáu i’r llys adolygu a yw corff cyhoeddus wedi gweithredu’n gyfreithlon wrth wneud penderfyniad.
Daeth yr adolygiad i ben yn gynharach eleni (Mehefin), a gwrthodwyd apêl hefyd ym mis Hydref; sy’n golygu bod y broses Adolygiad Barnwrol wedi dod i ben bryd hynny.

Pam rydym yn rhannu’r diweddariad hwn
Ers i’r heriau cyfreithiol ddod i ben, rydym wedi clywed pryderon cynyddol gan gymunedau am beth sy’n digwydd nesaf, yn enwedig o ran Argymhelliad 4 o’r Adolygiad EMRTS, a oedd yn cynnig datblygu gwasanaeth gofal critigol gwell ar y ffyrdd ar gyfer ardaloedd gwledig a diarffordd.

Mae’n amlwg bod hwn yn bwnc sy’n bwysig iawn i lawer, ac mae’n ddealladwy bod cymunedau eisiau gwybod beth sy’n digwydd nesaf, a sut y byddant yn cael eu cynnwys.
Felly, rydym am nodi beth rydym yn ei glywed gan bobl, beth rydym yn deall sy’n digwydd nesaf, a beth rydym yn ei wneud i gynrychioli buddiannau pobl a chymunedau.

Beth oedd Argymhelliad 4 yn ei olygu?
Cymeradwywyd Argymhelliad 4 gan y Pwyllgor Cydgomisiynu ar yr un pryd â’i benderfyniad i uno’r safleoedd EMRTS i un safle yng Ngogledd Cymru.
Roedd Argymhelliad 4 yn ymwneud â datblygu cynnig comisiynu, sef cynllun ffurfiol, yn nodi sut y gellid dylunio a darparu gwasanaeth gofal critigol gwell ar y ffyrdd mewn ardaloedd gwledig a diarffordd.
Roedd yr egwyddorion a gytunwyd gan y Pwyllgor yn cynnwys:
• Mae hyn yn ymateb uniongyrchol i bryderon a godwyd yn ystod ymgysylltu gyhoeddus am ddarpariaeth iechyd brys mewn ardaloedd gwledig a diarffordd.
• Mae’n ychwanegol at y gwasanaeth EMRTS arbenigol iawn, nid yn ei le.
• Ni fydd unrhyw newidiadau i leoliadau safleoedd presennol nes bod y gwasanaeth pwrpasol a gyfeirir ato yn Argymhelliad 4 ar waith.
• Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu o ddau safle ychwanegol mewn ardaloedd gwledig, gan gynyddu nifer y safleoedd sydd ar gael i EMRTS o 4 i 5.
• Bydd lleoliad y safleoedd hyn yn cael ei fodelu i sicrhau eu bod yn y lleoliadau gorau i wneud y gwasanaeth mor effeithiol â phosibl.
• Bydd y Pwyllgor Cydgomisiynu yn cytuno ar gwmpas y gwaith ac yn sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen i ddatblygu cynllun gweithredu.
Awgrymodd y papurau gwreiddiol y gallai hyn gynnwys cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd a safleoedd ychwanegol mewn ardaloedd gwledig.

Beth sydd wedi bod yn digwydd
Tra bod yr Adolygiad Barnwrol a’r apêl yn mynd rhagddynt, bu’r Pwyllgor a’r Grŵp Tasg a Gorffen yn oedi eu gwaith ar bob argymhelliad.
Rydym yn deall y penderfyniad hwn. Ni fyddai wedi bod yn iawn rhagdybio canlyniad y broses gyfreithiol neu barhau i gynllunio heb wybod a fyddai’r adolygiad yn cael ei gadarnhau.
Mae rhai pobl wedi dweud wrthym eu bod eisiau diweddariadau rheolaidd, rhagweithiol gan y rhai sy’n datblygu’r cynlluniau, fel eu bod yn gwybod beth sy’n digwydd, hyd yn oed os mai dim ond cadarnhau bod y gwaith yn dal i fod ar oedi yn ystod yr apêl.
Rydym wedi codi hyn yn uniongyrchol gyda’r aelodau o dîm y Pwyllgor Cydgomisiynu, sydd bellach wedi cytuno i ddarparu cyfathrebiadau mwy rheolaidd a rhagweithiol. Bydd hyn yn helpu pawb i ddeall beth sy’n digwydd, pam mae penderfyniadau’n cael eu gwneud, a beth fydd y camau nesaf.

Ein rôl
Ein rôl yw sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed a bod penderfyniadau sy’n effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn dryloyw ac yn atebol.
Rydym wedi cefnogi cymunedau i rannu eu barn yn ystod yr ymgynghoriad gwreiddiol ac yn parhau i fonitro datblygiadau’n agos.
Byddwn yn parhau i ofyn y cwestiynau sy’n bwysig i chi a sicrhau bod ymrwymiadau a wnaed yn ystod y broses adolygu yn cael eu cyflawni drwy weithio’n agos gyda’r cymunedau yr effeithir arnynt.
Rydym hefyd eisiau sicrhau bod unrhyw newidiadau’n cael eu cyfathrebu’n glir a bod pobl yn deall sut fydd darpariaeth cludiant brys yn edrych yn y dyfodol.
Rydym wedi ymrwymo i weithio’n gydweithredol gyda’r Pwyllgor Cydgomisiynu a’i grwpiau gwaith fel bod cymunedau’n cael eu cynnwys mewn datblygiadau gwasanaeth, yn cael gwybodaeth glir, amserol ac yn teimlo hyder yn nyfodol gwasanaethau cludiant brys.

Beth sy’n digwydd nawr
Mae cyfarfod Pwyllgor Cydgomisiynu ar y gweill ar ddydd Mawrth 25 Tachwedd am 9:30am, a fydd yn cael ei gynnal yn gyhoeddus.
Dyma’r cyfarfod cyntaf ers i’r Apêl Farnwrol ddod i ben. Un o’r papurau sy’n cael eu hystyried yw Diweddariad Gwasanaeth Adfer a Throsglwyddo Meddygol Brys. Mae’r papur hwn ar gyfer trafodaeth yn unig; ni fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud yn y cyfarfod hwn.
Rydym wedi edrych ar y papur ac, er ein bod yn croesawu’r cynnydd wrth ailgychwyn, rydym eisiau gwybod mwy am bryd y bydd y cynnig newydd ar gyfer Argymhelliad 4 yn cael ei ddatblygu a’i gyflwyno, a sut mae hyn yn cyd-fynd â’r ymrwymiadau a’r penderfyniadau blaenorol ynghylch cau safleoedd. Rydym wedi codi’r materion hyn gyda’r tîm yn y JCC a byddwn yn gwneud hynny eto gyda’r Pwyllgor yn y cyfarfod.
Rydym hefyd wedi pwysleisio i’r tîm yn y JCC y byddai cymunedau’n disgwyl i unrhyw wasanaeth newydd, newidiadau gwasanaeth, neu welliannau gael eu cynllunio gyda barn gymunedol wrth eu gwraidd ac yn unol â chanllawiau statudol. Mae gwrando ar ac ymateb i’r farn hyn yn hanfodol i greu atebion sy’n wirioneddol diwallu anghenion pobl.

 

Os ydych eisiau gwylio’r cyfarfod eich hun ar 25 Tachwedd, gallwch gofrestru drwy e-bostio [email protected].
Rydym yn parhau’n ymrwymedig i’ch cadw chi’n wybodus a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.

Rhannwch y dudalen hon
Cyhoeddwyd gyntaf 21 Tachwedd 2025
Diweddarwyd diwethaf 21 Tachwedd 2025