Cael Baban yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg
Yn Haf 2024, siaradodd tîm Llais Caerdydd a’r Fro â phobl am eu profiadau o gael babi yn yr ardal leol. Daeth rhai themâu allweddol i’r amlwg drwy gydol y prosiect, sydd wedi’u rhannu â’r Bwrdd Iechyd.
Yn Haf 2024, siaradodd tîm rhanbarthol Llais â llawer o bobl oedd â phrofiad o gael babi yng Nghaerdydd a’r Fro, a sut y teimlent y gallai’r Bwrdd Iechyd wella gwasanaethau.
Roedd themâu cyson ym mhrofiadau menywod beichiog a phobl sy'n geni, mamau newydd, a’u darparwyr gofal:
- Problemau gyda chyfathrebu a rhannu gwybodaeth, a allai o bosibl eithrio rhai cleifion
- Diffyg parhad gofal yn effeithio'n negyddol ar y profiad geni.
- Mae mynediad at ofal weithiau'n heriol, gydag arosiadau hir am apwyntiadau a rhai cleifion yn teimlo eu bod ar frys
- Pwysigrwydd empathi a chefnogaeth emosiynol gan ddarparwyr gofal, er mwyn sicrhau profiad cadarnhaol
- Roedd diffyg ystafelloedd preifat, cyfleusterau hen ffasiwn, ac anawsterau gyda'r pethau sylfaenol, megis parcio, yn bryderon cyffredin. Roedd y rhain yn aml yn cyfrannu at straen ac anghysur
- Yr angen am gymorth ychwanegol mewn gofal ôl-enedigol. Byddai hyn yn helpu i osgoi'r angen am arhosiadau estynedig yn yr ysbyty, neu'n helpu pobl i reoli eu gofal eu hunain gartref.
Rhannodd Llais yr adborth hwn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a gofynnodd iddynt edrych ar:
- Parhad gofal gyda bydwragedd cymunedol
- Gwell gwybodaeth i'r rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf
- Gwybodaeth a ddarperir mewn ffordd sy’n fwy cynhwysol, yn enwedig ar gyfer teuluoedd amrywiol
- Cyflwyno clinigau cyn-geni cymunedol Du Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws y rhanbarth
- Monitro rheolaeth poen mewn gofal ôl-enedigol
- Gwybodaeth well a chliriach mewn gofal ôl-enedigol
- Rhoi digon o amser i fenywod, pobl sy'n geni a theuluoedd ofyn cwestiynau