Eiriolaeth: Amseroedd Aros ar gyfer Llawfeddygaeth Orthopedig
Bu Rhanbarth Gorllewin Cymru yn siarad â dyn 84 oed a oedd wedi bod yn aros am lawdriniaeth orthopedig ers dechrau 2019. Yn ystod y cyfnod hwnnw dirywiodd ei allu i fynd o gwmpas, gyda hyd yn oed un cam yn ei adael mewn llawer o boen. Disgrifiodd ei ansawdd bywyd fel un nad oedd yn bodoli. Roedd y boen mor ddrwg fel nad oedd wedi cael noson dda o gwsg ers dros bedair blynedd.
Ei gwestiwn i Llais oedd “a ydw i wedi cael fy nghondemnio i fyw blynyddoedd olaf fy mywyd mewn poen, heb unrhyw siawns o gael llawdriniaeth – ydw i’n mynd i farw yn aros am lawdriniaeth?”
Roedd wedi dioddef o ganser yn ystod y cyfnod hwn a chafodd ei drin yn gyflym ac yn llwyddiannus. Fodd bynnag, gan fod y driniaeth canser wedi para mwy na 21 diwrnod roedd y canllawiau'n awgrymu y dylid ei dynnu oddi ar
unrhyw restr aros a dechrau eto pan gytunodd meddygon ei fod yn ffit. Byddai hyn wedi golygu iddo dreulio blynyddoedd yn hwy yn aros am lawdriniaeth orthopedig.
Ysgrifennon ni at y Bwrdd Iechyd yn gofyn iddynt ei roi yn ôl ar y rhestr, yn y lle y dylai fod wedi bod. Cytunodd y Bwrdd Iechyd, ac mae'r claf bellach wedi cael cynnig llawdriniaeth yn fuan
Mae wrth ei fodd ac yn edrych ymlaen at fwynhau'r dyfodol yn ddi-boen.