Llais: Croesewir targedau newydd GIG Cymru; yn bwysicaf oll, rhaid i bobl a chymunedau deimlo newid yn gyflym
Mae Llais, y corff statudol annibynnol sy’n cynrychioli pobol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru, wedi ymateb i gyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet am dargedau GIG newydd a “chytundeb gyda chleifion” i leihau amseroedd aros a gwella mynediad at ofal.
Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i gwtogi 200,000 ar y rhestr aros, dileu amseroedd aros o 2 flynedd, ac adfer uchafswm aros o 8 wythnos ar gyfer profion erbyn mis Mawrth 2026. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau newydd ar gyfer atgyfeirio a thriniaeth a disgwyliadau cryfach ar gyfer y GIG a’r cyhoedd.
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, Cadeirydd Llais:
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn gyfle pwysig i ganolbwyntio ein GIG ar y bobl y mae’n bodoli i’w gwasanaethu. Gall targedau a thechnoleg helpu i ysgogi gwelliant ond dim ond os ydynt wedi’u seilio ar brofiadau bob dydd pobl, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a staff rheng flaen.
Rhaid cefnogi pobl i fod yn bartneriaid go iawn ar eu taith gofal iechyd eu hunain, wedi’u grymuso gan y cyngor, y wybodaeth a’r cymorth cywir sydd eu hangen arnynt i gael llais cryf yn y ffordd y mae eu GIG yn gweithio iddynt hwy a’r rhai y maent yn gofalu amdanynt ac yn eu cylch.”
Mae Llais yn croesawu’r uchelgais a’r tryloywder cynyddol drwy ddata cliriach a gwybodaeth amser real ar restrau aros drwy Ap GIG Cymru. Ond mae'r sefydliad wedi galw am gynnydd brys, gweladwy wedi'i siapio gan leisiau'r bobl sy'n defnyddio ac yn darparu gwasanaethau'r GIG.
Mae Llais hefyd yn pryderu am effaith allgau digidol, tegwch ynghylch systemau apwyntiadau a pholisïau apwyntiadau a fethwyd, a’r angen am fynediad teg at gymorth cyn triniaeth.
Dywedodd Alyson Thomas, Prif Weithredwr Llais:
“Ein rôl ni yw dal ati i wrando – gwneud yn siŵr bod yr hyn rydyn ni’n ei glywed gan bobl a chymunedau ledled Cymru yn arwain at newid ystyrlon, gweladwy.
Mae hynny’n golygu cefnogi’r GIG i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru, a’i ddal yn atebol pan fydd gwasanaethau’n methu.
Byddwn yn canolbwyntio ar helpu i wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o’u hawliau, bod pawb yn deall disgwyliadau pobl gan ein GIG, a bod pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu cyfrifoldebau wrth ddefnyddio gwasanaethau’r GIG – fel bod y berthynas newydd hon rhwng pobl a’r GIG yn adlewyrchu’r hyn sydd bwysicaf i bobl a chymunedau ledled Cymru.”